Bydd S4C yn darlledu gemau rygbi timau dynion, merched a Dan 18 Cymru yn fyw dros yr wythnosau nesaf. Bydd camerâu Clwb Rygbi Rhyngwladol yn Twickenham ddydd Sadwrn, 12 Mawrth i weld tîm Warren Gatland yn herio Lloegr, wrth i S4C ddarlledu pob un o'i gemau Chwe Gwlad RBS eleni.
Y diwrnod wedyn ar ddydd Sul, 13 Mawrth, bydd y gêm rhwng Cymru Dan 18 a Lloegr Dan 18 yn cael ei darlledu'n fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C o Barc Talbot Athletic yn Aberafan am 4.35, gyda'r gic gyntaf am 5.00. Yna, y bydd S4C yn dychwelyd i Barc Talbot Athletic wythnos yn ddiweddarach i weld diweddglo ymgyrch Cymru yn Chwe Gwlad y Merched RBS, wrth iddyn nhw fynd benben gyda'r Eidal ddydd Sul, 20 Mawrth. Bydd y gêm yn fyw ar y we ar s4c.cymru, gyda'r gic gyntaf am 2.00. Gydag enillwyr y gêm rhwng timau dynion Lloegr a Chymru yn debyg o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS eleni, mae cyflwynydd rhaglen rygbi S4C, Rygbi Pawb, Owain Gwynedd yn rhagweld gêm agos rhwng yr hen elynion. Meddai Owain, sy'n wreiddiol o Borthmadog ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, "Mae'r gêm yma'n fy atgoffa i o'r gêm yng Nghwpan y Byd y llynedd, lle'r oedd rhaid i Gymru ennill i fynd drwodd, a'r gêm rhwng y ddau dîm yn 2013 yn Stadiwm y Mileniwm. Ni fydd chwaraewyr Cymru yn ofn mynd i Twickenham, gan fod nifer o'r garfan wedi ennill yno, ond mi fydd hi'n gêm anodd y tro hwn."
Fe fydd Owain Gwynedd hefyd yn rhan o dîm cyflwyno S4C ar gyfer y gêm Cymru Dan 18, ac mae e'n credu y bydd y tîm wedi cael eu hysbrydoli gan berfformiadau disglair diweddar dîm Dan 20 Cymru yn y Chwe Gwlad. "Bydd nifer o chwaraewyr tîm Cymru Dan 18 yn mynd yn eu blaen i gynrychioli'r tîm Dan 20 a'r tîm llawn, yn y blynyddoedd i ddod," ychwanega Owain. "Mae gweld chwaraewyr fel Billy McBryde, Leon Brown, Rhun Williams ac eraill yn gwneud y naid o'r tîm Dan 18 i'r tîm Dan 20, yn gwneud i chi sylweddoli pa mor agos mae'r hogiau yma at wneud enw drostyn nhw eu hunain, ac mae hynny'n ysbrydoliaeth i'r chwaraewyr presennol."
Er bod gemau gartref Chwe Gwlad tîm y Merched eleni wedi ei gynnal yn y Gnoll yng Nghastell-nedd hyd yma, mae lleoliad eu gêm olaf yn erbyn yr Eidalwyr wedi cael ei newid i Aberafan am resymau ymarferol.
Meddai Caroline Spanton, Pennaeth Rygbi Merched URC, "Wedi dwy fuddugoliaeth yng Nghastell-nedd, mae'r tîm yn edrych ymlaen at geisio gorffen yr ymgyrch gyda buddugoliaeth dros yr Eidal. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae yng Nghlwb Rygbi Aberafan lle cafodd y merched groeso mor gynnes ddwy flynedd nôl. Wedi ennill ein lle yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2017, fe fydd angen torf fawr yno i'n cefnogi ni achos ni allwn gymryd unrhyw fuddugoliaeth yn ganiataol. "Rydym yn ddiolchgar i'n partner darlledu S4C am ffrydio'r gêm ar ei gwefan ac rydym yn gobeithio gorffen ein hymgyrch Chwe Gwlad gyda diweddglo boddhaol."
Clwb Rygbi Rhyngwladol: Lloegr v Cymru Dydd Sadwrn 12 Mawrth 3.15, cic gyntaf am 4.00, S4C Cynhyrchiad BBC Cymru
Rygbi Pawb: Cymru Dan 18 v Lloegr Dan 18 Dydd Sul 13 Mawrth 4.35pm, cic gyntaf am 5.00, S4C Sylwebaeth ac isdeitlau Saesneg ar gael Cynhyrchiad SMS ar gyfer S4C Rygbi: Chwe Gwlad y Merched RBS: Cymru v Yr Eidal Dydd Sul, 20 Mawrth, cic gyntaf am 2.00, yn fyw ar s4c.cymru Cynhyrchiad SMS ar gyfer S4C