Gyda llai na mis i fynd cyn Cwpan Rygbi'r Byd, mae'n bryd i ni edrych ar ddeg o linellau gorau ein dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens. Ers dyfarnu ei gêm broffesiynol gynta' yn 2002 mae Nigel wedi creu tipyn o argraff! Gadewch i ni edrych ar ddeg o ddyfyniadau gorau Nigel Owens.
Yn bendant, dyma un o'i linellau enwocaf. Fel mae pawb yn gwybod, mae pob mewnwr yn barod iawn i gwyno a phwdu, ac mae'r rhan fwyaf o ddyfarnwyr yn caniatâu hyn. Fodd bynnag yn 2012, roedd Nigel yn dyfarnu gêm RaboDirect PRO12 rhwng Munster a Treviso pan wnaeth mewnwr Treviso, Tobias Botes, ddechrau cwyno nad oedd capten Munster, Paul O'Connell, wedi'i ryddhau yn y ryc. Cafodd Owens air gyda Botes … ac ar ôl darlith hynod, geiriau olaf Owens oedd: "This is not soccer". "Nid pêl droed yw hwn". Hyfryd.
Yn ystod gêm gynghrair Magners rhwng Scarlets a Thalaith Iwerddon, Leinster, dechreuodd bethau boethi 'lawr ym Mharc y Scarlets. Tacl uchel gan flaen asgellwr Leinster, Sean O'Brien daniodd y frwydr rhwng y ddau dîm. Yn anffodus, welodd neb y digwyddiad … neu o leia', dyna beth oedden ni'n credu… heb unrhyw nonsens, fe alwodd Owens bob un o'r chwaraewyr oedd ar y cae 'mewn am sgwrs fach. Roedd Jonathan Davies, sylwebydd y gêm, yn amlwg wedi mwynhau'r sioe awdurdodol, yn enwedig dyfyniad Owens ar y diwedd: "I don't want to make a big issue out of this…"!
Digwyddiad anffodus rhwng y maswr Ffrengig Jules Palisson a blaenasgellwr Lloegr Tom Wood daniodd y frwydr hon ym Mharis. Ar ôl cynnal arolwg TMO ar y digwyddiad, fe ofynnodd Owens i gael gair gyda'r ddau gapten ynghyd â'r tri chwaraewr dan sylw. Mae'n dweud yn glir a heb oedi: "This doesn't look good, it's not good!" Mae'r sylwebydd Brian Moore yn ymateb gyda: "Mae'n rhaid i chi garu Nigel Owens" ... rhywbeth, yn bendant, a oedd yn ategu sentiment pawb fu'n gwylio
Mae Capten yr Eidal, Sergio Parisse, yn arwain Stade Francais yn erbyn Caerfaddon yn y Cwpan Amlin. Mae'r dewin o Eidalwr yn cicio'r bêl lawr i ben pella'r cae, ac mae'n adlamu'n berffaith dros yr ystlys. Cic fydde'n plesio maswyr a chicwyr gorau'r byd. O'r llinell wedyn, enillodd Stade gic gosb ar linell 22m Caerfaddon. Mae'r capten Parisse yn hysbysu'r dyfarnwr, Owens, eu bod am gymeryd y gic gosb. Ymatebodd Owens: "Do you want to take the kick after that one?" ….er taw nid Parisse sy'n cicio i'w dîm. Doniol iawn Nigel!
Gan taw Nigel yw un o ddyfarnwyr gorau'r byd erbyn hyn, fe sy'n cael ei ddewis i ddyfarnu ar y gemau mwyaf yn y cystadlaethau pwysicaf. Rhif 5 yw digwyddiad yn ystod Cwpan Heineken. Gêm fawr yw hi rhwng Ulster a Theigrod Caerlŷr. Mae'r ddau dîm yn chwarae mewn gêm hollbwysig yn eu grŵp. Mae'r Teigrod yn cael eu cosbi ond 'dyw canolwr Caerlŷr, Anthony Allen, ddim yn cytuno, felly mae'n dechrau cwyno. Gyda'r rhan fwyaf o ddyfarnwyr byddech chi ddim yn cael stŵr am gwyno, ond dyw'r dyn o Bontyberem ddim yn hoff iawn o gwynwyr y gêm. Mae Nigel yn atgoffa Allen, "The football stadium is 500 yards that way".
Gêm agoriadol Cwpan Pencampwyr Ewrop (Cwpan Heineken) ar noson oer yn y Twickenham Stoop. Yr Harlequins a'r Wasps sy'n wynebu ei gilydd ym Mhencampwriaeth yr Aviva. Mae tipyn o ymladd rhwng y chwaraewyr yn arwain at un o linellau gorau Nigel Owens '... "It's embarrassing… If you want to cwtsh, do it off the field, not on it!". Clasur!
Gêm arall Cwpan Pencampwyr Ewrop yn y Stoop ac mae llinell i'r Cwins ar yr hanner yn hynod o gam. Mae tafliad Dave Ward mor gam fel na all unrhyw chwaraewr ddal y bêl. Wrth watwar Ward, mae Owens yn troi ato ac yn dweud:... "I'm straighter than that one". Clasur arall.
Nôl at y Chwe Gwlad, ble roedd gornest rhwng Ffrainc a Lloegr ym Mharis. Mae cic gan yr ymwelwyr yn arwain at ras rhwng cefnwr Lloegr Mike Brown ac asgellwr Ffrainc Yoann Huget. Huget sy'n ennill ac mae'n rhedeg y bêl dros yr ystlys. Fodd bynnag, mae Mike Brown yn awyddus i gymeryd llinell gyflym... ac mae Huget yn taflu'r bêl i ffwrdd, sy'n arwain at 'handbags' rhwng y ddau. Mae Owens yn galw'r pâr draw, ac yn dweud: "You're both acting very immature". Ac yn naturiol, dyna oedd diwedd y plentyndra yna.
Lloegr yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad yw hi unwaith eto. Mae capten Lloegr Chris Robshaw yn cwestiynnu Nigel Owens am un o chwaraewr Ffrainc fu'n gorwedd ar waelod y sgarmes flaenorol, ac ma Nigel yn ateb yn blwmp ac yn blaen: "No he wasn't". Wedyn mae Robshaw yn ymateb drwy ddweud: "He was..." gydag Owens yn troi 'nôl ato fel tad yn rhoi stwr i'w fab - "Uhh ... Christopher". "Sorry sir", yw ymateb gwylaidd Christopher.
At gêm Cwpan Heineken rhwng Munster a Toulouse ym Mharc Thomond yr awn ni ar gyfer ein dyfyniad olaf. 'Dyw Nigel ddim yn hapus gyda'r sgrymio ac yn y pen draw mae'n cael llond bol ac yn galw'r ddwy reng flaen draw ato: "You don't like to scrummage?" yw ei gwestiwn rhethregol. Yna mae'n parhau gyda: "Well if you don't you're in the wrong position!".