Mae cynnwrf mawr yn lledu dros y byd i gyd ar hyn o bryd wrth i ni nesau at Gwpan Rygbi'r Byd. Datgelwyd y lifrau holl bwysig, mae'r timau'n cael eu cyhoeddi, mae'r cefnogwyr yn paratoi eu hanthemau, mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd. Wrth i'r 18fed o Fedi agosau, dyddiad sydd wedi cael ei nodi yn nyddiaduron y mwyafrif mae'n siwr, rydym yn bwrw golwg dros y 10 prif reswm dros gynnwrf Cwpan Rygbi'r Byd.
Mae Cwpan Rygbi'r Byd hefyd yn dod ag 8 gem i Gymru, 8 gem fydd yn cael eu rhannu rhwng y gemau rhagbrofol a'r 'knockout finals'. Bydd cyfle i Gaerdydd arddangos ei doniau ysblennydd ar achlysur arbennig i'r brifddinas. Bydd 2 o'r gemau'n cynnwys Cymru, y gyntaf yn erbyn Uruguay a'r ail yn erbyn Ffiji. Rydym yn gwybod na fydd cefnogwyr Cymru'n siomi'r bois.
Bydd y Crysau Duon, sydd hefyd yn dod i Gaerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, yn rhoi gwledd i'n synhwyrau gyda'r anferthol Haka. Traddodiad ysgytwol, a thraddodiad sy'n cael ei barchu gan gefnogwyr rygbi led-led y byd. Bydd Wembley, Y Stadiwm Olympaidd, Stadiwm y Mileniwm, Parc Sant James a heb anghofio, Twickenham yn y gemau olaf (knockouts), yn cael y fraint o groesawu'r Haka.
Ydy, mae'n mynd i fod yn dipyn o frwydr wrth i Uruguay,Awstralia, y tim cartref Lloegr, Cymru a Ffiji frwydro am oruchafiaeth yng Ngrwp A, er mwyn galluogi eu timau i symud i'r cam nesaf allan o'r grwp. Maen nhw'n darogan bydd o leiaf un tim o'r grwp hynod anodd yma'n cyrraedd y ffeinal…..Ar bwy fyddwch chi'n rhoi eich arian?
Nefoedd i bob cefnogwr rygbi! 22/43 diwrnod rhwng y 18fed o fedi a'r 31ain o Hydref…a dim byd ond rygbi. O'r Gogledd Ddwyrain i'r De Orllewin ac o'r Gogledd Orllewin i'r De Ddwyrain. Bydd rygbi ar ein sgrinau ac ar ein meysydd chwaare. Am wefr!
Mae tlws Webb Ellis yn sgleinio fel gem amhrisiadwy. Gyda'i gynllun unigryw bydd yn ymddangos ar y llwyfan mawr am yr 8fed tro. Mae wedi cael ei godi ddwywaith gan Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia, unwaith gan Loegr. A fydd rhywun yn ei godi am y 3yth tro? Am yr eildro? Falle bydd rhywun yn ei godi am y tro 1af? Ymhen rhyw ddeufis, bydd ganddom yr ateb i'r cwestiynnau yma.
Go brin byddai unrhyw gefnogwr rygbi'n gwadu iddo fe neu hi or-gynhyrfu ar adegau yn ystod gem rygbi. Pe bae un o'ch arwyr chi'n carlamu tuag at y llinell gais yna byddai chi ar eich traed, yn gweiddi ac yn chwifio'ch breichiau'n wyllt….bydd ambell un wedi gwisgo'n bwrpasol iawn….'da ni wedi gweld sawl gwisg ddiddorol yn y gorffennol.
Mae'r Cymry'n ei garu, mae'r Ffrancwyr yn ei garu, mae'r Kiwi's yn ei garu… mae pawb yn ei garu! Mae'n anhebygol iawn y dowch chi ar draws unrhywun sydd ddim yn caru NigeI. Gyda'i stor o ddywediadau, ei gydymdeimlad deallus, ei steil arbennig o ddyfarnu, gallwn ddweud heb flewyn ar dafod, bydd gemau Tonga v Georgia, De Affrica v Yr Alban a Ffrainc v Iwerddon yn rhai ardderchog.
Y Crysau Duon, heb os nac oni bai, yw'r tim gorau erioed. Nhw yw deiliaid rhif 1 yn y byd, ac mae gan Yr Ariannin, Tonga, Georgia a Namibia gryn frwydr o'u blaenau yn y Bencampwriaeth. Mae sgiliau anhygoel, deallusrwydd ac ansawdd y chwaraewyr yn wych. A oes 'na unrhyw dimau all roi crasfa i'r Crysau Duon yn ystod Cwpan y Byd eleni?
Gallai rywun ennill lot fawr o arian yn ystod y misoedd nesa'… mae cwmniau, teuluoedd ac ysgolion dros y byd wedi creu 'sweepstake' yn y gobaith byddan nhw'n gallu ennill swm o arian ar ddiwedd y Bencampwriaeth. Bydd y sawl sydd wedi llwyddo i sicrhau enwau Seland Newydd, De Affrica, Awstralia (Cymru wrth gwrs) yn siwr o fod yn hapus iawn mai'r wlad honno ddaeth allan o'r het.
Pwy na fyddai'n drysu'i ben yn llwyr dros Gwpan Rygbi'r Byd? Mae pawb wrthi! Os nad ydy rhywun yn cyfaddef, yna mae siwr o fod yn dweud celwydd! Mae'n achlysur enfawr, dyma undod y byd rygbi. Bydd Lloegr a Chymru'n elwa gyda'r ymwelwyr yn heidio i'r dinasoedd, a bydd yr awyrgylch yn anhygoel!