Gosod y bêl ar y tee yn gyflym a gyda grym, er mwyn sicrhau na fydd y bêl yn cwympo…'da ni'n meddwl…
Wrth i ti sefyll, bacha welltyn o'r porfa a'i daflu i'r awyr…paid edrych i ble mae e'n chwythu….dim ond ei daflu.
Gan ddefnyddio dy fraich chwith, chwipia ffrinj dy wallt yn gadarn i'r chwith, yna rho dy fraich i lawr…yn gyflym.
Wedi i ti ostwng dy fraich, gwna sgwat bach sydyn! Ie, dyna dd'wedes i…Bownsia lan a lawr yn gyflym, ddwywaith!
Tra'n bownsio lan a lawr, cyffyrdda yn dy ysgwydd dde gyda dy fraich chwith, yna, heb oedi dim, cyffyrdda yn dy ysgwydd chwith gyda dy fraich dde. Yn syth wedyn, sicrhâ bod dy wallt wedi glynnu'n ei le drwy ail-adrodd cam 3.
Mae angen parhau i fownsio lan a lawr, rhaid gwneud hyn nes byddwn yn dweud wrthyt ti am beidio! Nawr, er mwyn cadw peth egni, does 'mond raid cyffwrdd â'r ysgwydd dde y tro hwn, yna'r gwallt! Felly ail-adrodda gam 5… ond paid cyffwrdd yn dy ysgwydd chwith!
Wedi rhai eiliadau o fownsio yn unig….ARHOSA! Oeda! Paid symud blewyn o dy gorun i dy sawdl! Jest anadla… a sylla ar y pyst.
Ie, unwaith eto dwi'n bathu gair am symudiad newydd sbon… tra'n camu at y bêl, coda dy freichiau'n syth o dy flaen, cyn taro'r bêl….aaa…o'r diwedd!
Mae'r ffordd rwyt ti'n troi'n hynod bwysig, sef troad chwim 180-gradd.
Wrth i ti droi, dechreua redeg yn ôl wysg dy gefn… wrth i'r camera bwyntio atat ti, rheda oddi wrth y pyst fel petae ti'n ymateb i ffrwydriad enfawr mewn golygfa ffilm James Bond.
A dyna sut mae gwneud'Y Biggarena'