Mae Glyn Ebwy wedi cyrraedd rownd derfynol Uwch Gynghrair y Principality am yr ail dymor yn olynnol, ar ol rhoi taw ar freuddwyd Llanymddyfri o ennill y dwbwl. Roedd hi'n 20-16 yn Church Bank.
Doedd y 'Steelmen' ddim ar ei hol hi drwy gydol y gem – un a oedd yn llawn tensiwn o'i dechrau i'w diwedd – a nawr mae ganddyn nhw gyfle i ddial ar y pencampwyr Pontypridd yn Sardis Road mewn gem fydd yn ail adrodd hanes ffeinal y tymor diwethaf.
Aeth Glyn Ebwy ar y blaen pan groesodd Ronnie Kynes y llinell gais wedi 24 munud. Er i ymgais Dai Langdon am drosiad daro'r postyn, roedd cicio'r maswr yn hollol gywrain am weddill y gem.
Prin saith diwrnod wedi iddyn nhw drechu Quins Caerfyrddin er mwyn cyrraedd Cwpan Swalec SSE yn Stadiwm Principality, roedd y Porthmyn ar ei hol hi o fwy o bwyntiau wedi hanner awr pan gliriodd cefnwr Glyn Ebwy, Dan Haymond y bel er mwyn rhoi cyfle i Jared Rosser groesi am gais.
Doedd dim ansicrwydd yn y gic o droed Langdon y tro hwn, er bod yr ongl yn un digon anodd, ac roedd yr ymwelwyr 14 pwynt ar y blaen. Tarodd Llanymddyfri 'nol gyda chais gan y chwaraewr rheng ol dawnus Shaun Miles a llwyddodd Jack Maynard i drosi. Ond wedi cic gosb o droed Langdon unwaith eto roedd hi'n 16-8 i'w dim ar yr hanner.
Wedi trosedd yn y ryc jest cyn yr hanner, rhoddwydd cerdyn melyn i Gethin Robinson gan y dyfarnwr Craig Evans, ond ni elwodd Llanymddyfri yn ei absenoldeb. Cyn gynted daeth e nol ar y cae, cafodd Langdon gic gosb i ymestyn y bwlch i 10 pwynt. Wedi ymgais cywir at y pyst unwaith eto ar yr awr, roedd gan Llanymddyfri fynydd i'w dringo yn ystod chwarter ola'r gem.
Roedd y tim cartref yn benderfynol, a daeth gwobr am eu hymdrech pan groesodd Richard Brookes am gais gyda 15 munud yn weddill. Llwyddodd Maynard i ychwanegu at eu pwyntiau gyda'r trosiad ac yn sydyn iawn, dim ond pedwar pwynt oedd yn gwahanu'r ddau dim.
Ond doedd dynion Nigel Davies ddim am golli, a gydag amynedd ac amddiffyn da, mae nhw wedi cyrraedd y ffeinal am yr eildro. Y gamp iddyn nhw nawr fydd rhwystro Pontypridd rhag ennill tlws yn yr Uwch Gynghrair am y pumed tro'n olynol.