Gyda'u gêm fwyaf o'r tymor ar y gorwel, mae'r Dreigiau wedi cael wythnos gythryblus a dweud y lleiaf. Newyddion rhyfedd ar y naw oedd clywed bod eu Cyfarwyddwr Rygbi Lyn Jones wedi gadael.
Dyw'r holl beth ddim yn gwneud synnwyr i fi ac yn amlwg mae rhywbeth mawr wedi digwydd y tu ôl i'r llenni. Mae Lyn wedi bod yn hyfforddwr da i'r Dreigiau ac wedi cyflwyno nifer o chwaraewyr ifanc.
Mae wedi creu tîm lled gystadleuol er gwaethaf eu cyllid isel o'i chymharu gyda rhanbarthau eraill Cymru a chlybiau gwledydd eraill Ewrop. Wedi dweud hynny, mae eleni wedi bod yn siom. Dim ond pedair gêm maen nhw wedi ennill yn y Guinness Pro12 – yr un faint a Zebre.
Dyw'r amseriad ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Maen nhw wedi curo Caerloyw, maen nhw yn rowndiau cyn derfynol y Cwpan Her, ac mae'r rheolwr yn gadael. Bydd y cefnogwyr yn siomedig gyda'r sefyllfa.
Felly mae'r hyfforddwr Kingsley Jones wedi paratoi'r tîm ar gyfer y gêm yn Montpellier. Mae Kingsley wedi bod wrth y llyw ers pythefnos tra bod Lyn yn sâl, felly fydd e ddim yn newid gormod ar dactegau ac athroniaeth y tîm.
Mae'r Dreigiau eisoes wedi ennill oddi cartref yn Ffrainc yn gynharach yn y tymor, yn erbyn Pau, ac mae Montpellier yn gallu bod yn dîm anghyson iawn. Ond gyda chwaraewyr fel Bismarck a Jannie du Plessis a Pierre Spies, a hyfforddwr fel Jake White, pan maen nhw eisiau ennill, maen nhw'n gallu codi lefel y chwarae.
Mae'r Dreigiau yn medru rhwystro timoedd, ond yn anffodus, dw i ddim yn gweld nhw'n cael lot o lwyddiant y tro hwn. Gyda'r ffeinal o fewn cyrraedd, dw i ddim yn meddwl y bydd Montpellier yn cymryd y gêm yn ganiataol yn erbyn y Dreigiau fel y gwnaeth Caerloyw.
Yn sicr mae'r Dreigiau yn gweithio'n galed, ond ar y lefel yma, mae angen talent a'r gallu i sgorio ceisiau.
Yr unig obaith yw na wnaiff hi droi'n gêm rhy unochrog a bod y Dreigiau yn medru rhwystro'r gwrthwynebwyr rhag sgorio a chadw o fewn cyrraedd iddyn nhw i gipio'r gêm. Rwy'n byw mewn gobaith.
Yng Nghwpan y Pencampwyr, dwi'n meddwl bydd y Saracens yn rhy gryf i'r Wasps, er mai'r Wasps sydd wedi bod yn chwarae'r rygbi gorau yn y gystadleuaeth. Fydd hi'n gêm dynn rhwng Caerlŷr a Racing Metro, a dw i'n meddwl bydd penderfyniad y tîm cartref yn ddigon iddyn nhw ennill – ond mae lot yn dibynnu ar droed chwith Dan Carter.
Rygbi: Cwpan Her Ewrop a Cwpan Pencampwyr EwropNos Sadwrn, 23 Mai am 10.30Gwefan: s4c.cymru