Mae'r grwpiau wedi eu cyhoeddi ar gyfer cystadleuaeth 7 bob-ochr y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro'r haf yma. Bydd 12 gwlad yn cystadlu yng nghystadleuaeth y dynion ac yng nghystadleuaeth y merched.
Rhwng Awst 6 ac 8 ym Mharc Olympaidd Deodoro bydd y pencampwyr byd Awstralia'n herio Fiji, yr Unol Daleithiau a Colombia; bydd Seland Newydd yn yr un grwp a Sbaen, Ffrainc a Cenia ac yn y grwp arall mae tim Prydain, Canada, Japan a Brasil. Mae'r Gymraes Jasmine Joyce yn gobeithio bod ymhlith y 12 bydd yn cynrychioli Prydain.
Yng nghystadleuaeth y dynion (Awst 9- 11 yn yr un lleoliad) Fiji, yr Unol Daleithiau, yr Ariannin a Brasil sydd yng ngrwp A; De Affrica, Awstralia Ffrainc a Sbaen sydd yng ngrwp B ac yn cystadlu gyda Phrydain yng grwp C mae Cenia, Japan a Seland Newydd. Mae 5 Cymro yn cystadlu am le yng ngharfan Prydain ar hyn o bryd.
Yn y ddwy gystadleuaeth bydd y ddau dim ucha ym mhob grwp yn chwarae yn rowndiau'r 8 olaf, yn ogystal a'r ddau dim gorau sy'n cyrraedd y trydydd safle o fewn y grwpiau.