S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cwis Bob Dydd

Telerau ac Amodau

Mai 2024

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Tinopolis, Tinint (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 17 oed neu'n hŷn i chwarae a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bodloni'r gofynion oedran wrth gofrestru i chwarae. Ceidw'r Cwmni ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.

3. I gystadlu, rhaid ticio'r blychau perthnasol i dderbyn telerau ac amodau Ap Cwis. Mae hyn yn cael ei wneud cyn i'r ymgeisydd gael chwarae.

4. Drwy gydol y tymor, bydd y cystadlaethau wythnosol yn dechrau am 00:01 ar fore Dydd Llun ac yn cau am 23:59 ar Ddydd Sul.

5. Bydd y gystadleuaeth i ennill prif wobr y tymor yn dechrau am 00:01 ar y 27ain o Fai 2024 ac yn cau am 23:59 ar y 13eg o Hydref 2024.

6. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

7. Bydd y Cwmni yn cadw data personol cystadleuwyr am hyd at 12 mis ar ôl diwedd y tymor diweddaraf er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth a delio gydag unrhyw gwestiynau. Gall chwaraewyr ddileu'r holl ddata personol ar unrhyw adeg trwy ddileu eu cyfrif o fewn gosodiadau proffil yr Ap. Mae hyn yn unol â rheoliadau GDPR.

8. Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi preifatrwydd sydd wedi'i gyhoeddi ar https://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi sydd wedi'i gyhoeddi ar http://www.s4c.cymru/en/about-this-site/page/16717/privacy-policy/.

9. Mae'r Cwmni a/neu S4C yn cadw'r hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

10. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan yr ymgeiswyr, nac am unrhyw gyfathrebu gan y chwaraewyr i dîm gweinyddol Cwis.

11. Mae'r Cwmni a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn unol â'r deddfau a chanllawiau perthnasol.

12. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

13. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth at y tîm gweinyddol: cwisbobdydd@tinint.com neu Gwifren Gwylwyr S4C: 0370 600 414.

Gwobrau wythnosol

I ennill gwobr wythnosol, rhaid i ymgeiswyr chwarae Cwis a chael sgôr ar gyfer yr wythnos lle maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd y 200 uchaf ar y sgorfwrdd. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith y 200 o chwaraewyr hyn. Gall nifer y gwobrau a nifer yr enillwyr amrywio o wythnos i wythnos, yn unol â nifer y noddwyr a gwobrau sydd ar gael.

Gwobr y tymor

Bydd pawb sy'n chwarae Cwis Bob Dydd yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill gwyliau i bedwar mewn chalet sgïo moethus yn Yr Alps. Bydd hyn yn cynnwys costau teithio a llety. Bydd chwaraewyr yn derbyn 1 tocyn i'r raffl bob tro maen nhw'n gorffen ateb y Cwis dyddiol. Bydd enillydd y raffl yn cael ei ddewis ar hap trwy broses awtomataidd ar y 14eg o Hydref 2024.

Bydd Tinint (y Cwmni) yn cysylltu â'r enillydd at ddibenion dilysu ac i gael rhagor o fanylion fel y gall S4C anfon y wobr. Rhaid i'r enillydd ymateb i gadarnhau ac anfon eu manylion o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl i dîm gweinyddol Cwis gysylltu â nhw.

Rheolau Gwobr y Tymor: Gwyliau i bedwar mewn chalet sgïo moethus yn Yr Alps

1. Y Wobr

Prif wobr y tymor fydd gwyliau i bedwar mewn chalet sgïo moethus yn Yr Alps.

2. Gofynion cymhwysedd

Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl drigolion y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn adeg ymgeisio. Ni all unigolion sy'n gweithio i'r hyrwyddwr, na'u teuluoedd agos, gymryd rhan.

Dyddiadau penodol yw'r dyddiadau llety a theithio ar gyfer y wobr hon. Bydd angen i'r enillydd fod ar gael i deithio ac aros yn y llety yn ystod y dyddiadau penodol hyn. Y dyddiadau ar gyfer y wobr yw'r 6ed – 12fed o Ebrill 2025. Mae gan S4C, y Cwmni, a'r noddwyr yr hawl i newid y dyddiadau hyn os bydd angen, yn ogystal â'r telerau ac amodau hyn, hyd at y 20fed o Hydref 2024.

Bydd angen i'r enillwyr fodloni a chytuno â'r telerau i fod yn gymwys i ennill gwobr gan y noddwyr. Cyfrifoldeb yr enillwyr fydd sicrhau eu bod yn iach i deithio ac i aros dramor. Nid yw S4C, y Cwmni, na'r noddwyr yn gyfrifol am drefnu dogfennau teithio ac yswiriant i'r enillwyr. Cyfrifoldeb yr enillwyr yw sicrhau bod ganddyn nhw'r dogfennau teithio ac yswiriant priodol. Rhaid i'r enillwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn i hawlio'r wobr.

Os na all yr enillydd fodloni'r telerau hyn, bydd enillydd newydd yn cael ei ddewis ar hap.

3. Sut i gystadlu

I gystadlu i ennill y wobr, rhaid i chwaraewyr lawrlwytho Ap Cwis Bob Dydd, cofrestru a chwarae'r Cwis fel bod ganddynt amser cwblhau a sgôr ar gyfer diwrnod sy'n gymwys o fewn y tymor y mae'r wobr yn perthyn iddo. Bob tro y mae'r defnyddiwr yn ateb y Cwis, bydd enw'r chwaraewr (ID y chwaraewr) yn cael ei gynnwys yn y raffl.

4. Dewis enillydd

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith i'r dyddiad cau.

5. Hawlio'r wobr

Rhaid i'r enillydd gysylltu â'r hyrwyddwr o fewn 3 diwrnod ar ôl cael ei hysbysu i hawlio ei wobr.

I weld y telerau ac amodau llawn, neu i ddysgu mwy am noddwyr y tymor, ewch i a/neu cysylltwch â:

https://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/57281/telerau-ac-amodau-cystadleuaeth/

https://www.nicotravel.co.uk/terms/

https://zebrachalet.com/

Cystadleuthau a Noddwyr

  • Oni nodir yn wahanol, nid yw brandiau'r gwobrau bob amser yn cynrychioli nawdd neu gysylltiad uniongyrchol â chynnyrch/gwasanaeth/brand y wobr.
  • Mae S4C yn derbyn pob cyfrifoldeb am drefnu noddwyr Cwis Bob Dydd, yn ogystal â'r modd y mae'r noddwyr hyn yn cael eu cyflwyno o fewn yr Ap.
  • Ni all unrhyw unigolyn sy'n gyflogedig gan S4C, Tinopolis, Tinint (y Cwmni), eu teuluoedd na chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth ennill a/neu hawlio gwobr.
  • Nid yw Apple yn noddwr i'r ap, nac yn ymwneud mewn unrhyw fodd â gêm Cwis Bob Dydd, na'r cystadlaethau a swîps sy'n digwydd ynddi.
  • Nid yw Google yn noddwr i'r ap, nac yn ymwneud mewn unrhyw fodd â gêm Cwis Bob Dydd, na'r cystadlaethau a swîps sy'n digwydd ynddi.

Mae'r gêm hon wedi'i bwriadu ar gyfer cynulleidfa o oedolion yn unig.

Trwy dderbyn telerau'r gystadleuaeth hon, mae pob chwaraewr ac enillydd yn cytuno y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio enw a llun proffil yr enillydd at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng. Gall y Cwmni ac S4C gysylltu â chwaraewyr/enillwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo a marchnata. Bydd unrhyw gyfranogiad pellach mewn gweithgareddau o'r fath yn ôl disgresiwn y chwaraewr/enillydd.

Rhaid bod yn 17 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r ap hwn. Drwy ddefnyddio'r ap a chytuno i'r telerau ac amodau hyn, rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu eich bod yn 17 oed neu'n hŷn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?