S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cwis Bob Dydd

Gwobr Tymor 4: Gwyliau i bedwar mewn chalet sgïo moethus yn Yr Alps

Ffansi ennill gwobrau anhygoel drwy chwarae Cwis Cymraeg? Mae Cwis Bob Dydd yn ôl gyda'r tymor mwyaf cyffrous ETO!

A'r peth gorau oll? Mae gwobrau i'w hennill BOB wythnos! Ar ddiwedd pob gêm, bydd sgoriau ein chwaraewyr yn cael eu bwydo mewn i sgorfwrdd byw. Mi fydd eu sgôr yn dibynnu ar faint o gwestiynau maen nhw wedi ateb yn gywir, a pha mor gyflym y maen nhw wedi llwyddo i ateb y cwestiynau yna. Po gyflymaf y gallan nhw ateb, yr uchaf fydd eu sgôr! Bydd pawb sy'n gorffen yn y 200 uchaf ar ddiwedd yr wythnos yn cael cyfle i ennill y wobr wythnosol. Felly, sut mae'ch gwybodaeth gyffredinol chi? Mae'n amser rhoi'r meddwl ar waith, a dechrau cystadlu!

Yn ogystal â gwobrau arbennig gan ein noddwyr wythnosol, bydd pawb sy'n chwarae Cwis yn derbyn un tocyn i'r raffl i ennill prif wobr y tymor BOB TRO maen nhw'n ateb y cwis. Peidiwch â cholli'r cyfle anhygoel yma i ennill gwyliau i bedwar mewn chalet sgïo moethus ym Meribel, yr Alps* - y lle perffaith i sgïo, beicio mynyddoedd, neu ymlacio. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud i ennill yw chwarae Cwis Bob Dydd. A chofiwch, y mwya' chi'n chwarae... yr uchaf fydd eich siawns o ennill!

Diolch enfawr i'n noddwyr Nico Travel a chaletzebra.com am wneud hyn i gyd yn bosib.

*T&A yn berthnasol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?