S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

OCD

Anhwylder lle mae syniadau neu ddelweddau anwirfoddol yn codi drosodd a thro ac yn arwain arwain person i ailadrodd ymddygiad arbennig neu ymddwyn mewn modd defodol er mwyn lleihau pryder. Ceir wybodaeth a chefnogaeth pellach o safon o'r mudiadau isod.

  • OCD Action

    Gwybodaeth a chefnogaeth o safon i'r sawl gydag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol.

    0845 390 6232

    www.ocdaction.org.uk

  • OCD UK

    Elusen annibynol sy'n gweithio gyda'r oddeutu miliwn o blant ag oedolion sy'n byw gydag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol, yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth trwy'r wefan a'r llinell ffôn.

    www.ocduk.org

  • Gofal

    Elusen sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i bobl â phroblemau iechyd meddwl, yn cefnogi eu hannibynniaeth, gwellhad, iechyd a lles.

    www.gofalcymru.org.uk

  • Meddwl.org

    Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.

    meddwl.org

  • No Panic

    Elusen sydd yn cynnig llinell gymorth ac help ymarferol i bobl ar su'n byw gyda gor-bryder.

    Llinell Gymorth: 0300 7729844

    Llinell Gymorth pobl ifanc: 0300 6061174

    Bob diwrnod, 10am-10pm

    nopanic.org.uk

  • Amser i Newid Cymru

    Partneriaeth o dair elusen iechyd meddwl mwyaf blaenllaw Cymru ac ymgyrch i herio stigma o gwmpas iechyd meddwl. Mae'r wefan gyda gwybodaeth defnyddiol a diddorol ar sut i wneud hyn a chysylltiadau i Hafal, Gofal a Mind Cymru.

    www.timetochangewales.org.uk

  • Mind Cymru

    Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau, yn cynnwys yng nghyfnod COVID-19.

    www.mind.org.uk

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?