Gair i'ch atgoffa bod dyddiadau cyfleu ar gyfer rhaglenni i S4C wedi eu nodi yn y drwydded ar gyfer y rhaglen neu gyfres. Mae'r dyddiadau hyn hefyd yn cael eu storio'n awtomatig ar system ddarlledu S4C (BSM). Mae gwahanol adrannau S4C yn dibynnu ar gywirdeb y dyddiadau yn y system ddarlledu ar gyfer llunio amserlen S4C, hysbysu'r wasg a hyrwyddo, yn ogystal â threfnu gwaith yr adrannau o ddydd i ddydd. Rydym hefyd yn cydlynu gwaith gyda chwmnïau allanol i ddarparu ein gwasanaethau mynediad ar sail y dyddiadau cyfleu. Mae'n bwysig felly bod unrhyw newidiadau i'r dyddiadau hyn yn cael eu cofnodi.
Gofynnwn i chi gyfeirio pob cais i newid dyddiad cyfleu rhaglen at Materion Busnes drwy e-bost arbennig (cyfleu@s4c.cymru) o leiaf 20 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cyfleu gwreiddiol, gyda'r manylion isod yn y cais:
Enw'r rhaglen
Rheswm am y cais
Oes trafodaeth wedi bod gyda'r tîm comisiynu?
Dyddiad cyfleu ar hyn o bryd
Awgrym o ddyddiad cyfleu newydd
Bydd aelod o'r tîm wedyn yn ymateb ar e-bost o fewn pedwar diwrnod gwaith a chadarnhau a fydd y newid dyddiad cyfleu yn bosib ai peidio.
Bydd hyn yn sicrhau bod y cwmni cynhyrchu ac S4C yn glir pryd bydd disgwyl i'r cynnwys gael eu cyfleu i S4C ac yn ein galluogi i newid camau eraill o fewn BSM.