S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Galwad am Syniadau Ffilmiau Dogfen Hansh

Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am ffilmiau dogfen i'w cyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau straeon fydd yn ysbrydoli, rhyfeddu, codi gwen, ffilmiau mentrus sy'n defnyddio ffurf ddogfen gwbl gyfoes.

Rydym yn awyddus i gael syniadau am straeon pobl ifanc eithriadol all fynd â gwylwyr mewn i fyd arall gyda naratif sy'n datblygu yn y foment; dogfennau gyda digon o hiwmor sydd cwestiynu a phrocio hunaniaethau Cymru; dogfennau sydd yn ceisio rhoi darlun bositif o amrywiaeth eang profiadau siaradwyr Cymraeg (neu siaradwyr ieithoedd eraill Cymru). Mae diddordeb mawr genym am storiau sydd wedi cael ei arwain gan fenwyod a phobl o gefndiroeth sy'n cael ei tan-gynrychioli.

Rydym yn chwilio am ffilmiau:

● 1x30,

● Ar amrywiaeth o bynciau, ond rhaid i chi ddangos yn glir eu bod yn berthnasol ac yn adlewyrchu dyheadau a diddordebau cyfoes gwylwyr 16-34

● Sydd yn gallu gwneud defnydd creadigol ac arloesol o'r arian sydd ar gael gan ddefnyddio technegau camera a graffeg addas

Bydd angen i bob pitch fod ar ffurf 'deck slide' gan gynnwys:

● Teitl cryf a chlir

● Strapline un llinell

● Esboniad clir o pam Hansh, pam nawr, pwy mae'n apelio atyny a pham ei fod yn berthnasol i'r gynulleidfa yna?

● Be ydy'r Cwestiwn Mawr mae'r ddogfen yn ceisio ateb.

● Amlinelliad stori gan roi cefndir y prif gymeriad(au), yr hyn fyddwn yn ei ddilyn gyda nhw yn ystod y ffilm, a'r math o esblygiad stori emosiynol allwn ddisgwyl gweld.

● Syniad pendant o naws ac arddull y ddogfen - pwy yw eich dylanwadau? Oes arddull dogfen arall yn eich ysbrydoli? Rhowch enghreifftiau a delweddau / fideo / moodboard

● Ychydig o wybodaeth am y tim creadigol allweddol a'ch profiad dogfen / dolenni i waith blaenorol

Cyllideb

Yn ddibynnol ar y cynnwys, ond rydym yn edrych ar gomisiynu'r cynnwys ar dariff hyd at £50,000.00 y prosiect.

Sut i gyflwyno syniad?

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12:00 Dydd Mawrth, 20fed o Awst, 2024. Gallwch gyflwyno mwy nag un syniad, ond bydd angen i chi eu hafnon ar wahân. Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy ebost.

Mae gwefan gynhyrchu S4C http://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/ yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych.

Mae'n fwriad gan Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc ddewis rhestr fer ganol Medi- cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C – Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael y gwahoddiad.

Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?