Yn ystod y cyfarfodydd sector a gynhaliwyd ym Mis Tachwedd bu'r comisiynwyr yn trafod eu gofynion diweddaraf. Gallwch weld y sleids yma ar y wefan gynhyrchu
Gyda'r syniadau Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant gofynnir i chi gysylltu gyda'r comisiynydd perthnasol mewn ebost i drafod unrhyw syniadau cychwynnol. Os oes diddordeb yn y syniad fe ofynnir i chi eu cyflwyno yn ffurfiol ar Cwmwl.
Gyda'r syniadau Drama gofynnir i chi ebostio pitch y gyfres ac yn ddelfrydol enghraifft o 2 neu 3 golygfa. Edrych am gyfresi gafaelgar 'bingable ' 30 munud x 5/6/8 megis One Day a Normal People
Y dyddiad cau ar gyfer y ffenestr gomisiynu Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant yw 31/01/25 a Drama ar y 28/2/25
Byddwch yn cael ymateb i'r syniadau Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant erbyn 21/2/2025 a'r syniadau Drama ar 11/4/25
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?