Byddwn yn cynnal dau gyfarfod sector gweithredol mis Ebrill. Mae hwn yn gyfle i chi ddod i adnabod a chreu perthynas gyda staff S4C ar lefel weithredol.Fe fydd yr un cyntaf yn cael ei gynnal ar 3 Ebrill yng Nghaernarfon, a'r ail yn cael ei gynnal ar 9 Ebrill yng Nghaerfyrddin. Bydd cyfle i chi sgwrsio gyda staff S4C yn unigol ar ddiwedd y sesiwn. Mae croeso cynnes i bawb.
03/04/25 - Y Galeri, Caernarfon
09.45 - Tê/coffi
10.15 – 12.15: Cyfarfod sector
12.15 – 13.00: Cyfle i rwydweithio a thê/choffi
09/04/25 - Yr Egin, Caerfyrddin
9.45 - Tê/coffi
10.15 – 12.15: Cyfarfod sector
12.15 – 13.00: Cyfle i rwydweithio a thê/choffi
Os nad ydych wedi cadw lle yn barod ar gyfer y cyfarfod, mae dal modd gwneud drwy lenwi'r ffurflen. Bydd y cyfarfodydd yn gyfle i gwrdd â, a chlywed gan yr isod:
Prif Swyddog Cynnwys: Llion Iwan
Gweithrediadau Cynnwys: Siwan Phillips
Materion Busnes: Angharad Thomas
Cynllunio a Rheoli Cynnwys: Arwyn Thomas
Cyfleu ac Archif: Jen Pappas
Cyhoeddi a Chyflwyno: Anwen Thomas
Gwasanaethau Mynediad: Meleri Wyn Fflint
Strategol: Sara Peacock
Technegol: Alessandro De Filippo
Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol: Sian Lloyd a Lleucu Lynch
Marchnata a Chyfathrebu: Rebecca Griffiths a Rhian Adams
Os oes gyda chi unrhyw gwestiwn pellach, cysylltwch â lois.thomas@s4c.cymru os gwelwch yn dda.
Diolch.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?