Cyfreithiol
Iestyn Morris yw Pennaeth yr Adran Gyfreithiol a Busnes.
Mae'r tîm cyfreithiol yng ngofal materion cytundebol, hawliau a chydymffurfiaeth.
Cyfeiriad ebost yr adran yw: Cyfreithiol_Legal@s4c.cymru
Materion Busnes
Angharad Thomas sydd yn gyfrifol am reolaeth ariannol y gyllideb cynnwys yn ei chyfanrwydd ac yn cydweithio'n agos gyda'r adran cynnwys wrth flaengynllunio i'r dyfodol, yn ogystal â llywio gwaith y swyddogion materion busnes.
Mae'r tîm materion busnes yn gyfrifol am drafod agweddau gweithredol, cyllidebol a chyfreithiol cynyrchiadau.
Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am wirio manylion cyfleu ar y PAC a sicrhau bod yr wybodaeth angenrheidiol wedi ei dderbyn.
Cyfeiriad e-bost yr adran yw mb@s4c.cymru
Gweithrediadau Cynnwys
Siwan Phillips yw'r Pennaeth Gweithrediadau Cynnwys ac yn gyfrifol am drafod cyllidebau ac agweddau cynhyrchu gyda chwmnïau cynhyrchu yn ôl y gofyn, yn ogystal â chyd-weithio gyda'r timoedd cyfleu, archif, cyhoeddi a gwasanaethau mynediad.
Siwan Phillips – Pennaeth Gweithrediadau Cynnwys – siwan.phillips@s4c.cymru
Cyllid
Unwaith y bydd cynhyrchiad wedi ei gytundebu, y tîm Cyllid fydd yn prosesu taliadau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu cau yn brydlon. Dylid danfon unrhyw ymholiadau am daliadau at taliadau@s4c.cymru.