Bob Dydd Iau fe fydd amserlen darlledu diweddaraf S4C yn ymddangos isod.
Disgwylir i gynhyrchwyr wirio'r amserlen yn [wythnosol] ac i hysbysu S4C cyn gynted â phosib drwy ebostio mb@s4c.cymru os oes rheswm pam y gallai ail-ddarlledu rhaglen a amserlennwyd ac a gynhyrchwyd ganddynt fod yn amhriodol. Er enghraifft (ond heb fod yn gyfyngedig) oherwydd bod cyfrannydd:
- wedi marw ers y darllediad blaenorol;
- yn cyfeirio at neu wneud sylw am berson sydd wedi marw'n ddiweddar;
- wedi troseddu neu wedi'i g/chyhuddo o droseddu ers y darllediad blaenorol;
- yn gwneud sylw am rywun sydd wedi troseddu neu wedi'i g/chyhuddo o droseddu ers y darllediad blaenorol; neu
- yn defnyddio iaith neu drafod thema(u) neu ymddwyn mewn ffordd oedd yn dderbyniol adeg y darllediad blaenorol ond sydd bellach yn annerbyniol.
Nid oes gan S4C yr adnodd i ail-wylio rhaglenni cyn pob darllediad ac felly cyfrifoldeb cynhyrchwyr ydy dod â'r uchod, ac unrhyw faterion tebyg neu gysylltiedig, at sylw S4C. Penderfyniad S4C fydd p'un ai i ddarlledu ai peidio.
Mae angen cyfrinair i weld yr amserlen a gellir ei gael drwy gysylltu â mb@s4c.cymru.