Gweithrediadau Cynnwys
Siwan Phillips yw Pennaeth Gweithrediadau Cynnwys ac yn gyfrifol am drafod cyllidebau ac agweddau cynhyrchu gyda chwmnïau cynhyrchu yn ôl y gofyn, yn ogystal â chyd-weithio gyda'r timoedd Cyhoeddi, Cyflwyno, Cyfleu, Archif a Gwasanaethau Mynediad.
Siwan Phillips – Pennaeth Gweithrediadau Cynnwys – siwan.phillips@s4c.cymru
Cyhoeddi a Chyflwyno
Anwen Thomas yw Arweinydd Cyhoeddi a Chyflwyno sydd yn gyfrifol am yr amserlenni darlledu a chael trosolwg ar y gwasanaeth darlledu llinol mae'r BBC yn rhedeg ar ran S4C.
Mae'r Cyhoeddwyr, sydd yn rhan o'r tîm yn gyfrifol am wylio rhaglenni, sgriptio a chyhoeddiadau byw ar y platfform llinol.
Mae'r Trefnydd Cyfryngau yn amserlenni trels a negeseuon hyrwyddo o fewn yr amserlenni darlledu.
Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am gyd-lynu ac yn bwynt cyswllt cyfleu nawdd, eitemau cyflwyno e.e. eitemau coffaol a chydymffurfiaeth a chyfleu hysbysebion. Rydym hefyd yn gofalu am dderbyn manylion rhybuddion sydd yn y PAC 405 a gwasanaeth Cymorth S4C.
Cyhoeddwyr/Presenters@s4c.cymru
Trefnyddion.Cyfryngau/Media Planners@s4c.cymru
Adran Archif a Chyfleu Cynnwys
Mae'r adran yn gyfrifol am sicrhau fod cynnwys yn cael eu cyfleu yn brydlon ac yn cydymffurfio o ran gofynion technegol. Maent yn gyfrifol yn bennaf am gynnwys ar gyfer y gwasanaethau llinol a dibenion Clic a BBC iPlayer [e.e. Bocsets ayyb].
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda thimoedd o fewn y BBC yn y Sgwâr Canolog CSQ ac adrannau Gwasanaethau Mynediad, Cyflwyno a Chynllunio o fewn S4C.
Mae'r adran hefyd yn gyfrifol am ymholiadau am fynediad at archif S4C gan gwmnïau sy'n cynhyrchu rhaglenni ar ein cyfer
Jen Pappas (Arweinydd Archif a Chyfleu Cynnwys) sy'n arwain y tîm-
Aimee RichardsonGail Morris JonesLauren Egan
Gwasanaethau Mynediad
Meleri Wyn Flint yw Arweinydd Gwasanaethau Mynediad S4C ac yn gyfrifol am y gwasanaethau isdeitlo Cymraeg a Saesneg, sain ddisgrifio ac arwyddo ar sgrin.
S4C fydd yn dewis pa wasanaethau fydd ar gael ar wahanol gynyrchiadau ac yn trefnu bod copïau o'r masters terfynol ar gael i'r cwmnïau sydd yn darparu'r gwasanaethau hyn.
Meleri Wyn Flint - Arweinydd Gwasanaethau Mynediad - meleri.wyn.flint@s4c.cymru / isdeitlo@s4c.cymru