S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Whole Picture Toolkit

Mae'r Whole Picture Toolkit yn adnodd ar-lein a lansiwyd gan y Film and TV Charity yn 2022, sydd yn edrych ar elfennau cyd-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac wedi cael ei gynllunio gyda chymorth arbenigwyr iechyd meddwl a'r diwydiant er mwyn cynnig arweiniad, adnoddau a'r gallu i liniaru'r pwysau sy'n effeithio ar Iechyd Meddwl. Mae gan y Film and TV Charity dîm o gynhyrchwyr penodedig sydd ar gael i'ch helpu i ddeall y Toolkit a chynghori ar yr adnoddau mwyaf perthnasol i'ch cynhyrchiad.

Croeso i chi e-bostio adran gymorth y Film and TV Toolkit ar gychwyn cynhyrchiad a byddant yn hapus iawn i drefnu cyfarfod cychwynnol.

toolkitteam@filmtvcharity.org.uk

Mae'n gyfnod pwysig iawn i ddarlledwyr a chynhyrchwyr gyd-weithio i fynd i'r afael ac iechyd meddwl, felly rydym yn wir obeithio byddwch yn ystyried y cynnig yma o gymorth i weithredu'r Toolkit ac i sicrhau bod y diwydiant yn le iachach a hapus i bawb.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?