Bydd y Cynllun Cymru Wrth-Hiliol 2030 yn sicrhau bod pawb yn gwrando, a deall mwy am brofiadau pobl Cymru, o hiliaeth.
Bydd y Cynllun Cymru Wrth-Hiliol 2030 yn sicrhau bod plant a phobl o Gymunedau Ethnig Amrywiol Cymru yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall.
Bydd y Cynllun Cymru Wrth-hiliol 2030 yn sicrhau bod plant a phobl o Gymunedau Ethnig Amrywiol yn gweld esiamplau gwych o gynrychiolaeth o'u cymunedau ar y teledu, yn y Llywodraeth, ar y meysydd chwarae ac mewn swyddi amlwg, a phwysig.
Mae angen gwella sut mae holl sefydliadau Cymru yn delio gyda hiliaeth.
Bydd ffilm orau pob ysgol yn cael eu gwylio gan banel o feirniaid bydd yn dewis y ffilm gorau o bob un o'r chwe chategori.
Bydd enillwyr pob categori yn derbyn gwahoddiad i gyd-weithio gyda rhai o gwmnïoedd teledu mwya' Cymru, i droi eu ffilm nhw yn ffilm 'go iawn' gydag offer proffesiynol anhygoel!
Pob lwc, a chofiwch…
Mae bod yn wrth-hiliol yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni!