S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cystadleuaeth Ffilm Wrth-Hiliol

Adnoddau Into Film

Into Film yw prif elusen y DU ar gyfer ffilm mewn addysg ac yn y gymuned. Rydyn ni'n darparu gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd yn y diwydiant sgrin, yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm ifanc, ac yn helpu i gyflwyno pŵer adrodd storïau drwy'r ddelwedd symudol wrth addysgu yn y dosbarth.

Mae rhaglen graidd Into Film ar gael am ddim i ysgolion gwladol, colegau a lleoliadau ieuenctid eraill yn y DU, diolch i gymorth gan y BFI, sy'n dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol, a thrwy arianwyr allweddol eraill gan gynnwys Cinema First a Sgrin Gogledd Iwerddon.

Creu Cyfrif Am Ddim ar wefan Into Film: Cofrestru am gyfrif Into Film.

Gwobrau Into Film

Mae Gwobrau Into Film yn rhoi'r cyfle inni ddathlu doniau creadigol pobl ifanc ledled y DU. Mae'n rhoi llwyfan i lais pobl ifanc ac yn dangos sut y mae ffilm yn gallu bod yn gyfrwng pwerus i rannu stori neu thema bwysig. Mae Gwobrau Into Film yn rhoi'r cyfle i unrhyw wneuthurwr ffilm ifanc i dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith a'u creadigrwydd.

Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un a fyddai'n gymwys i gymryd rhan, mae modd anfon ffilm atom ni drwy lenwi ffurflen gais ar ein gwefan cyn 31 Mawrth 2024. Gyda deg categori posib – mae'n siwr y bod categori addas ar eich cyfer!- Darperir fwy o wybodaeth yma: intofilm.org/awards

Cofiwch hefyd, os yw eich ffilm yn y Gymraeg neu'n ddi-iaith, bod modd cystadlu yng Nghystadleuaeth Creu Ffilm yr Urdd hefyd: urdd.cymru/cy/eisteddfod/2024/

Rhowch Gynnig Arni - Cyngor Celfyddydau Cymru

Hyd at £1,500 i dalu am wneuthurwr ffilm/golygydd/rhywun i helpu gyda sgriptio… gellir talu am gyfres o weithdai neu wersi meistr.

  • Rhowch Gynnig Arni

    Cyngor y Celfyddydau

    Cronfa newydd i ddysgwyr 3-16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy ymarferol sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol yn yr ysgol a'r tu allan. Gall profi'r celfyddydau fod yn ysbrydoledig, yn heriol, yn ddeniadol ac yn hwyl, ac mae ganddo ran bwysig i'w chwarae ym mhrofiadau dysgu ein pobl ifanc ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw.

Amrywiaeth a Chynhwysiant
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?