Ar y 30ain o Dachwedd 2023 cyhoeddodd S4C erthygl am ofal a dderbyniodd un o breswylwyr cartref gofal Coed Isaf Nursing Home Limited. Nid oedd yr eitem yn cwrdd â'n safonau golygyddol o ran cywirdeb a didueddrwydd, ac rydym eisoes wedi tynnu'r erthygl ar-lein I lawr. Rydym yn ymddiheuro am hyn.
Yn benodol, hoffem wneud y canlynol yn glir:
1. Er bod yr erthygl yn nodi'n glir bod Mr Pile wedi marw o drawiad ar y galon, dylid bod wedi datgan yn benodol, rhag ofn bod unrhyw amheuaeth, nad oes tystiolaeth achosol rhwng meddyginiaeth a roddwyd gan staff Coed Isaf Nursing Home Limited a'i farwolaeth.
2. Dylai'r erthygl fod wedi bod yn fwy manwl am ddiben yr arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru a chanfyddiadau'r arolygiad hwnnw.
3. Dylai'r erthygl fod wedi cyfeirio'n benodol at ganfyddiadau adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, nid yn unig at yr ohebiaeth gan yr Ymgynghorydd Meddygaeth Frys.
4. Dylai'r erthygl fod wedi nodi'n glir y cafodd Amisulpride ei ragnodi gan Ymgynghorydd ac ni gafodd ei weinyddu mewn camgymeriad.
Rydym yn cydnabod y pwyntiau hyn ac yn ymddiheuro am y diffygion yn ein safonau golygyddol.
12 Ionawr 2024
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?