Rhoddir lle canolog i ddweud jôcs yn ystod y rhaglen hon a dangosir hefyd bod gwahanol fathau o lyfrau ar gael. Cyflwynir y brif lythyren a'r llythyren fach law yn llaw yma. Cyfeirir at y llythyren fach fel 'ffon ben i waered' ac wrth ei ffurfio mae ganddi 'gefn syth a thro yn ei gwaelod'. Tynnir sylw hefyd , er bod siâp y ddwy lythyren ychydig yn wahanol, mai'r un sŵn maent yn ei wneud. I atgyfnerthu'r ffurfiant gwelwn yn weledol bod J fawr yn sefyll ar wyneb y dŵr a j fach a'i thraed yn padlo yn y dŵr.
Llafar
cymryd rhan wrth chwarae â synau a geiriau [Meithrin]
siarad yn glywadwy [ Derbyn]
neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]
Darllen
dehongli ystyr trwy luniau mewn llyfrau, gan ychwanegu manylion wrth esbonio [Meithrin]
cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]
adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]
Ysgrifennu
adnabod synau llythrennau drwy ymchwilio a chyffwrdd siapiau'r llythrennau o fewn gweithgareddau chwarae aml-synhwyraidd [ Meithrin]
defnyddio'r gytsain gychwynol gywir drwy ddechrau defnyddio gwybodaeth ffonig [ Derbyn]