Byddwn yn cyhoeddi enwau'r enillwyr ar Cyw ar 19 Mehefin. Pob lwc!
1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
3. I gystadlu mae rhaid ebostio llun o'r cerdyn pen-blwydd at cyw@s4c.cymru neu ei anfon am ddim drwy'r post i Rhadbost Cyw.
4. Dewisir tri enillydd o blith yr enwau unigol sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau.
5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
6. Cyhoeddir enwau'r enillwyr ar Cyw ar 19 Mehefin, 2019. Bydd y gwobrau'n cael eu hanfon at yr enillydd.
7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd ar 7 Mehefin. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr ac nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
9. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.
10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn.
11. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
12. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Branwen Gwyn yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
13. Os oes plentyn mewn llun, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau'r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o'r gystadleuaeth.