Ydych chi'n caru canu?
Mae plant bach yn caru canu a chyd-ganu gyda theulu a ffrindiau. Mae'r caneuon yma'n cynnig cyfle i wylio a chanu caneuon a hwiangerddi traddodiadol a chyfoes wrth ddysgu am anifeiliaid, ystumiau, cyfri a'r tywydd. Ac i'r rhai sydd angen 'amser tawel', mae 'na hwiangerddi i'w helpu cysgu hefyd!
Dewch i dudalen Caru Canu i lawrlwytho caneuon i'w canu!
Os hoffech wybod mwy am adnoddau storiol a chanu i blant bach, ewch i www.meithrin.cymru a www.booktrust.org.uk