Drama newydd. Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod ai llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.
Isdeitlau Saesneg ar gael.
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Ar ôl i Jason sicrhau benthyciad o chwe deg mil o bunnoedd iddo, mae'n benllanw ar gynlluniau Ben i adael y wlad a'i holl broblemau... ond fel pob cam arall ar y daith, bydd yn rhaid iddo barhau â'i gelwyddau os am ennill y dydd, ond tybed a gaiff ei demtio i wneud un penderfyniad annoeth a hynny mor agos i'r llinell derfyn' Caiff Iestyn ymweliad annisgwyl sy'n cychwyn hunllef bersonol iddo a bydd Gwenno mewn penbleth wrth i'r ymchwiliadau ddatblygu i'r Iard ac wrth i bawb ddechrau holi cwestiyn
Ym 1972, aeth awdur 'Un Nos Ola Leuad', Caradog Prichard, i'r ysbyty am lawdriniaeth ar gancr yn ei wddf. Yn fuan wedyn, dechreuodd ysgrifennu ei hunangofiant, Afal Drwg Adda. Mewn drama ddogfen o'r un enw heno ar S4C, cawn ddarlun gonest o fywyd un o lenorion pwysicaf Cymru. Fe adroddir y stori o enau Caradog wrth iddo orwedd ar ei wely yn yr ysbyty cyn mynd o dan y gyllell i gael tynnu'r cancr o'i wddf. Y diweddar Stewart Jones sy'n portreadu Caradog ym mlodau ei ddyddiau a Llion Williams sy'n
Cyfle arall i weld wrth i ni nesau at 50fed penblwydd yr opera sebon. Faint wyddoch chi am gymeriad Mark' Mae'r gyfres archif arbennig yma o Gwmderi yn gyfle i dreiddio dan wyneb rhai o gymeriadau fwyaf lliwgar y pentref. Yn y rhaglen hon cawn ddod i adnabod cymeriad Mark dipyn gwell, a hynny dan arweiniad rhywun sydd yn ei nabod yn well na neb, yr actor Arwyn Davies.