Dw i yng Nghymru
Yn ogystal â gwylio ar Freeview dych chi'n gallu ein darganfod ni ar iPlayer, ac ar ein gwasanaeth S4C Clic ar-lein, ar rai setiau teledu clyfar (mwy ar y gweill!), ar Freeview Play, Freely a thrwy ddyfeisiau eraill fel Xbox a Chromecast. Mae manylion llawn i'ch helpu chi ein darganfod ni ar gael ar ein gwefan.
Dw i yn y DU, ond tu allan i Gymru
Dych chi'n gallu ein darganfod ni ar iPlayer, ac ar ein gwasanaeth S4C Clic ar-lein, ar rai setiau teledu clyfar (mwy ar y gweill!), ar Freeview Play a thrwy ddyfeisiau eraill fel Xbox a Chromecast. Mae manylion llawn i'ch helpu chi ein darganfod ni ar gael ar ein gwefan.
Dw i tu allan i'r DU
Dyn ni wrth ein boddau bod llawer o bobl ar draws y byd eisiau dysgu ein hiaith brydferth. Dych chi'n gallu gwylio llawer o'n rhaglenni o'r tu allan i'r DU ar S4C Clic; dyn ni'n hapus iawn i ddangos Cymru i'r byd, a 'dyn ni'n rhyddhau ein cynnwys yn rhyngwladol pan fo hawliau i wneud hynny gyda ni. Ewch i'n gwefan yma i weld rhestr wedi'i diweddaru o beth sydd ar gael.
Os dych chi angen unrhyw gymorth o gwbl, mae tîm cyfeillgar gyda ni sy'n gallu mynd â chi trwy bopeth, yn Gymraeg neu yn Saesneg - anfonwch e-bost neu codwch y ffôn.