Mae'n bwysig i nodi bod holl gynnwys S4C i chi – bydd popeth dych chi'n ei gwylio yn eich helpu chi ar eich taith i ddysgu'r iaith. Felly ewch amdani i wylio unrhyw raglen sydd o ddiddordeb i chi, gan ddefnyddio'r wybodaeth ar y wefan hon i'ch cefnogi.
Wedi dweud hynny, mae rhai cynnwys yn cael ei greu gyda dysgwyr mewn golwg. Gallai hynny olygu:
Yn ogystal â'n rhaglenni ar gyfer neu am bobl sy'n dysgu Cymraeg (Iaith ar Daith, er enghraifft), mae'r dudalen hon yn cynnwys rhaglenni ar gyfer cynulleidfa gyffredinol lle 'dyn ni'n meddwl bod yr iaith yn glir a dealladwy, ac mae cysylltiadau cryf â'r lluniau sydd ar y sgrîn i'ch helpu chi ei deall.
Heblaw gorfod gwylio rhaglen benodol ar gyfer tasg ddosbarth, 'dyn ni'n awgrymu eich bod chi'n gwylio'r math o raglen dych chi'n ei mwynhau fel arfer. 'Dyn ni'n trio ein gorau glas i sicrhau bod yna rywbeth i bawb ar S4C, felly ewch ati i weld beth sy'n apelio atoch chi. Dyma fannau cychwyn i chi:
Mae presenoldeb cryf ar gyfryngau cymdeithasol gyda'r brandiau i gyd, felly dych chi'n gallu dod ein gweld ar YouTube, Twitter, Facebook, Instagram, TikTok...
Os dych chi'n ffansio rhywbeth ychydig yn fwy difrifol, dyma raglenni dogfen difyr gyda straeon sy'n rhoi mewnwelediad i Gymru a'r Cymry. Er enghraifft, mae cyfresi "pry ar y wal" sy'n dilyn pobl mewn swyddi diddorol, fel Y Llinell Las ac Ar Brawf; mae cyfresi fel Cynefin yn ein helpu ni i ddysgu tipyn bach mwy am beth sy'n gwneud ardaloedd gwahanol o Gymru mor arbennig.
Yn ogystal â'n hoperâu sebon poblogaidd a hirfaith Pobol y Cwm (wedi ei leoli yn ne Cymru) a Rownd a Rownd (wedi ei leoli yng ngogledd Cymru) 'dyn ni'n cynhyrchu cyfresi drama o ansawdd uchel yn rheolaidd, er enghraifft Y Gwyll/Hinterland, Bariau neu Y Golau/Light in the Hall. Weithiau bydd dau fersiwn o raglen (un yn y Gymraeg ac un yn y Saesneg) a bydd yr un Gymraeg yn ymddangos yn gyntaf ar S4C, felly byddwch chi ymhlith y rhai cyntaf i'w gwylio.