Dach chi'n chwilio am bethau i'w wylio ar y teledu yn ystod y gwyliau Nadolig? Mae gynnon ni sawl bennod Nadoligaidd o'n hoff raglenni, a hefyd rhai o'r clasuron Cymraeg sydd wedi dod allan o'r archif. Dyma fwy o wybodaeth i'ch helpu chi i ddewis. Cofiwch, bydd y rhaglenni yma i gyd ar gael ar S4C Clic o 16 Rhagfyr ymlaen hefyd os dach chi eisiau eu gwylio nhw ar amser sy'n gyfleus i chi!
Mae C'mon Midffîld yn un o'n rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed. Roedd pumpcyfres o'r comedi hwn rhwng 1988 a 1994. Canolbwynt y straeon yw clwb pêl-droed amatur Bryn Coch United, a'r pwyllgor Arthur Picton (John Pierce Jones), Wali Tomos (Mei Jones) a Tecwyn Parri (Bryn Fôn). Mae Mr Picton yn gwylltio'n hawdd, ac yn aml mae'n grac efo Wali, sy'n tueddu i gamddeall pethau.
Bydd gennoch chi gyfle i wylio pennod Nadolig y gyfres (8.00yh, 18 Rhagfyr) a hefyd Midffîld y Mwfi (5.05yp, 16 Rhagfyr).
Mae'r rhaglen Cefn Gwlad, sy'n edrych ar fywyd yng nghefn gwlad Cymru, wedi chwarae rhan bwysig iawn yn S4C ers y dechrau ym 1982. Cyflwynwr y rhaglen hon tan 2020 oedd Dai Jones Llanilar, yr oedd yn un o gymeriadau mwyaf adnabyddus y byd Cymraeg.
Yn y bennod arbennig Cefn Gwlad hon (11.00yh, 26 Rhagfyr), mae Dai a'i gyd-gyflwynwr Wil yn ymweld ag Awstria i ddysgu sut maen nhw'n ffermio yno – a hefyd trio dysgu sgïo!
Dach chi'n gwylio Heno ar S4C pob noson yn ystod yr wythnos am 7 o'r gloch? Yn wreiddiol, mi ddaeth Heno i S4C ym 1990 gyda'r cyflwynwyr Angharad Mair a Sian Thomas. Mae Angharad a Sian yn cyflwyno Heno o hyd, ac yn y rhaglen arbennig hon maen nhw'n edrych nôl trwy'r archif at glipiau o Heno yn ystod Nadolig yn y 1990au.
Cwestiwn cwis: beth oedd y rhaglen gyntaf erioed ar S4C, ar y cyntaf o fis Tachwedd 1982? Yr ateb yw... SuperTed! Mae SuperTed Sion Corn ar gael i chi ei gwylio ar Clic, ac mae nifer o ffilmiau sy'n addas i'r teulu cyfan yna hefyd.
Felly, os oes gennoch chi blant sy'n siarad neu ddysgu Cymraeg hefyd, mae'n gyfle i chi cwtsho ar y soffa i wylio gyda'ch gilydd. Neu dach chi'n medru gwylio ar eich pen ei hun, os dach chi eisiau!
Stori Nadoligaidd am fachgen un ar ddeg oed, Frank, sydd newydd gael ei fabwysiadu (adopted) gan Clive a Rhi – dyma eu Nadolig cyntaf gyda'i gilydd. Nid yw Frank yn edrych ymlaen at y Nadolig, ond wedyn mae'n cwrdd â'i gyfnither (cousin) Mia, a thwrci mawr o'r enw Aden!
Cafodd Llyfr Mawr y Plant ei gyhoeddi'n gyntaf ym 1931 – dyma'r cyntaf o bedwar llyfr o straeon i blant mae cenedlaethau (generations) o blant Cymraeg yn gyfarwydd â nhw. Un o straeon y Llyfr Mawr yw Siôn Blewyn Coch, a dyma ffilm wedi'i animeiddio i ddweud yr hanes. Mae dau lwynog, Siôn Blewyn Coch a Siân Slei Bach, eisiau dwyn twrci oddi ar y ffarmwr, Eban. Ond mae'r llwynog bach Mic yn ffrindiau gyda'r twrci Gobl Gobl.
Dyma stori gerddorol, llawn hwyl, am Noa a'i ffrind dychmygol (imaginary), Albi. Mae'r ddau ffrind yn cael anturiaethau mawr yn eu byd arbennig, ac mae byd Noa yn newid am byth.
Addasiad o'r clasur gan Dylan Thomas A Child's Christmas in Wales yw'r ffilm hon wedi'i animeiddio. Taid yn adrodd ei atgofion o Nadolig pan oedd yn blentyn yn Ne Cymru. Ffilm berffaith i'w wylio ar Noswyl Nadolig (9.00yb, 24 Rhagfyr).
Bydd Colleen yn paratoi bwyd Nadoligaidd yn ystod y bennod arbennig yma sy'n dechrau'r gyfres newydd. Dach chi'n gallu darllen mwy am Colleen yn ein cylchlythyr dysgwyr ar gyfer mis Rhagfyr.
Yng nghefn gwlad Cymru mae gwesty unigryw, lle mae pobl yn cael cyfleoedd i ail-gysylltu â phobl arbennig o'u gorffennol. Ym mhennod llawn emosiwn bydd pedwar enwog Cymru (actorion Richard Elis a Richard Harrington, actores a chantores Rebecca Trehearn, ac athletwraig Non Evans) yn ymweld â'r gwesty.
Bydd pedwar person enwog o Gymru yn arwain taith yn ei ardal ei hun: y sylwebydd pêl-droed John Hartson, y gweinidog dan hyfforddiant Glyn Wise (oedd ar Big Brother nôl yn 2006), y gantores a chyfansoddwraig Mared Williams, a'r gyflwynwraig a chantores Lisa Angharad. Pwy fydd yn trefnu'r daith orau, ac ennill £1,000 i elusen?