Yn rhaglen olaf y gyfres bresennol, mae'r Byd ar Bedwar yn ymchwilio i wyau cawell Cymreig.
Mae Brexit yn dal i hawlio'r penawde, a gyda'r ansicrwydd am delere'r ysgariad ag Ewrop yn fwy dryslyd nag erioed, fyddwn ni'n holi'r rhai sydd ar dan i droi cefn ar y cyfandir.
Tra bod nifer y damweiniau ar ein ffyrdd yn cwympo mae nifer y beicwyr modur sy'n cael eu hanafu'n wael neu eu lladd ar gynnydd.
Mae dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos ar draws Cymru a Lloegr gan bartner neu gynbartner - y'n ni'n clywed gan rai sydd wedi cael eu cam-drin.
Hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan, Bernard Thomas yn ail-fyw erchylltra'r trasiedi a chwalodd ei ysgol a'i fywyd.
Mae'r Byd ar Bedwar yn datgelu rhagor o bryderon am safonau gofal iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Rydyn ni'n gofyn faint o broblem yw ail gartrefi arfordir Cymru, ac yn siarad â pherchennog un ty gwyliau sy'n cyhuddo'r cyngor lleol o fod yn hiliol am godi treth ychwanegol ar ail gartrefi.
Mewn cyfres newydd, rydyn ni'n ymchwilio i achosion o stelcian. Mae mam i dri o blant yn disgrifio sut wnaeth hi ddiodde' ymgyrch o aflonyddu gan gyn-bartner, ac mae'r cyn-gyflwynydd tywydd Siân Lloyd yn datgelu bod hi'n ofni bod adre' ar ben ei hun ar ôl derbyn negeseuon brawychus gan ddynion diarth.
Mae Y Byd ar Bedwar yn camu i'r ffrae am ffermydd solar.
Gyda'r llywodraeth yn torri sybsidiau i gynlluniau ynni adnewyddadwy, a ddaw haul ar fryn i ddiwydiant solar Cymru?
Wedi ymosodiadau diweddar yn enw Islam, mae 'na dwf wedi bod mewn troseddau ar sail crefydd a hil.
Wythnos yma mae'r Byd ar Bedwar yn cwrdd â Mwslim Cymraeg sy'n teimlo dan fygythiad oherwydd ei grefydd, ac yn mynd i ganol y trais gyda'r Cymry sy'n mynd â'u neges gwrth-Islamaidd ar strydoedd Prydain.
Mae'r Byd ar Bedwar yn ffilmio tu ol i ddrysau temlau'r seiri rhyddion.
Pam bod yr aelodau am gadw cyfrinachau? A faint o dylanwad sydd gan masons Cymru erbyn heddiw?
BT yw cwmni telegyfathrebu mwyaf blaenllaw Prydain. Ond mae cwynion am y gwasnaeth ffôn a band eang mae nhw'n cynnig i ardaloedd gwledig.
Y dilyn cyhoeddiad cwmni dur Tata y bydd bron i fil o weithwyr yng Nghymru yn colli eu swyddi. Catrin Haf Jones bydd yn edrych ar effaith hyn ar Bort Talbot ac yn gofyn be yw'r dyfodol i ddiwydiannau trwm Cymru.
Yn ystod wythnos 'Caru'r Cymoedd' S4C, mae'r Byd ar Bedwar yn gofyn pa mor llwyddiannus yw addysg Gymraeg yn y de ddwyrain?
Mae cannoedd yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol bob blwyddyn ar ein ffyrdd.
Yn rhaglen gynta' cyfres newydd o'r Byd ar Bedwar, oes digon yn cael ei wneud i gosbi gyrwyr sy'n lladd?
Mae'r Byd ar Bedwar yn siarad â hen ŵr wastraffodd filoedd ar gystadlaethau ffug yn addo gwobrau ariannol enfawr, a'r gyn-brifathrawes gollodd £7,000 ar ôl cael ei thwyllo dros y ffôn.
Mae'r Byd ar Bedwar wedi bod yn ymchwilio i'r farchnad ailwerthu tocynnau cwpan rygbi'r byd.
Ry'n ni yn Calais yn cael blas ar fywyd y bobl sy'n ceisio torri mewn i Brydain.
Rydyn ni'n cwrdd â'r bobl ifanc sy'n dweud eu bod nhw'n eu 'smygu nhw'n rheolaidd. Ac yn holi a fydd cynlluniau'r Llywodraeth i wahardd legal highs yn gwneud unrhyw wahaniaeth?
Y Byd ar Bedwar sy'n dilyn brwydr Irfon Williams am yr hawl i fyw, ac yn datgelu'r diweddara' am ei driniaeth yn Lloegr.
Fis diwethaf, cafodd un teulu eu hel o'u cartref ar ôl methu â thalu dyled o filiynau o bunnoedd. Mae nifer yn rhoi'r bai ar gwmni UK Acorn Finance o gamarwain cwsmeriaid. Y Byd ar Bedwar sy'n dilyn y stori.
Mewn rhaglen arbennig mae'r tîm yn siarad â Chymraes yn Kathmandu sydd wedi gorfod gadael ei chartref ar ol y trychineb.
Wrth i'r Llywodraeth geisio torri lawr ar nifer y mewnfudwyr i Brydain, mae Gareth MacRae wedi cael ei hel adre' i ben draw'r byd, i ffwrdd o'i wraig Lliwen. Y Byd ar Bedwar sy'n dilyn eu brwydr.
Wrth i Gymru baratoi at newid y gyfraith rhoi organau, mae Y Byd ar Bedwar yn dilyn y rhai sydd wedi cael eu heffiethio gan y broses o drawsblannu.
Gyda rhai yn cwympo yn y tablau cenedlaethol ac yn wynebu trafferthion ariannol, mae cwestiynau yn dechrau codi ynglun a gwariant Prifysgolion Cymru.
Y Byd ar Bedwar sy'n gofyn faint o niwed tymor hir sy'n cael ei wneud gan anaf i'r pen tra'n chwarae rygbi?
Mae system addysg Cymru yn 'sgandal': Faint o sylwedd sydd i sylwadau y Blaid Geidwadol?
Dri deg mlynedd wedi streic y glowyr mae'r Byd ar Bedwar yn bwrw golwg ar ddwy gymuned lle roedd brwydro mawr i achub pyllau glo.
Mae'r Byd ar Bedwar wedi ennill gwobr arbennig am raglen ar gymuned drawsrywedd yng Nghymru. Cliciwch i wylio'r fideo...
Mae Sian Morgan Lloyd yn son am ei phrofiad hi mas yn Sri Lanka, ddegawd wedi difrod y tsunami ar ddydd San Steffan nol yn 2004.
Mae'r Byd ar Bedwar yn dychwelyd i dde ddwyrain Asia i weld sut mae'r bobl yno wedi ymdopi ers y tsunami yn 2004.
Mae canlyniadau ein pol YouGov yn datgelu eich arferiadau gwario chi yn ystod yr wyl...
Gyda gwyl y gwario yn ei hanterth, rydyn ni'n ceisio dod o hyd i ginio Nadolig rhataf Cymru.
Oes digon yn cael ei wneud i helpu'r rhai sydd â salwch meddwl? Mae un ferch yn son wrth y Byd ar Bedwar am ei brwydr unig gydag iselder.
Y Byd ar Bedwar sydd yn cwrdd a teulu sy'n wynebu colli eu cartre cyn Dolig, ar ol mynd i drybini ariannol.
Ar ddechrau wythnos diogelwch y ffyrdd, bydd Y Byd ar Bedwar ar batrol gyda'r heddlu ac yn darganfod pam bod defnyddio ffôn ar y lôn yn cael ei ystyried mor beryg ag yfed a gyrru.
Rydyn ni'n siarad gyda'r rhai sydd wedi colli popeth oherwydd y gwrthdaro ac yn cwrdd a'r milwyr sy'n brwydro bygythiad IS.
Rydyn ni'n gofyn a ydy'n Gwasanaeth Iechyd ni yn israddol i'r un dros y ffin? Ac mae un o gyn-ohebwyr Y Byd ar Bedwar yn barnu record iechyd Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni'n clywed gan weithwyr ambiwlans sydd dan bwysau ac yn datgelu canlyniadau syfrdanol cais rhyddid gwybodaeth.
Mae teuluoedd y Gleision yn siarad am y tro cyntaf ers diwedd yr achos llys.
Y Byd ar Bedwar sydd ar drywydd y datblygwr tai sydd yn gadael stadau heb eu gorffen.
A ddylai Llywodraeth Cymru fod yn ystyried gwahardd e-sigarets mewn mannau cyhoeddus?
Yn dilyn protestiadau gan gefnogwyr Caerdydd, bydd Y Byd ar Bedwar yn Malaysia yn ymchwilio i amheuon am gefndir y perchennog dadleuol Vincent Tan.