Ar 25 Ebrill, fe wnaeth daeargryn anferth daro Nepal. Mae dros 8,000 o bobl wedi cael eu lladd ac mae miliynau angen cymorth. Mae'r Byd ar Bedwar wedi teithio yno i dystio i'r difrod wedi'r trychineb. Mewn rhaglen arbennig mae'r tîm yn siarad â Chymraes yn Kathmandu sydd wedi gorfod gadael ei chartref, ac yn gofyn pam mae rhai cymunedau yn dal i aros am gymorth.