Mae cannoedd yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol bob blwyddyn ar y ffyrdd gan yrwyr peryglus a di-ofal.
Ond mae teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn cwyno bod y llysoedd ddim ddigon llym â'r rhai sydd ar fai.
Yn rhaglen gynta' cyfres newydd o'r Byd ar Bedwar, oes digon yn cael ei wneud i gosbi gyrwyr sy'n lladd?