S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gwasanaethau Mynediad

Arwyddo

Iaith weledol yw iaith arwyddion (BSL), gyda chystrawen unigryw, a gramadeg a geirfa ei hun. Mae arwyddo ar y sgrîn yn gyfieithiad o ddeialog rhaglen i iaith arwyddo Prydain.

Cyfieithydd sy'n gyfrifol am y gwaith yma, a chaiff delwedd y person hynny ei osod ar y rhaglen.

Paratoir y gwasanaeth ar gyfer gwylwyr byddar sydd ar y cyfan yn byw yng Nghymru, neu sy'n medru derbyn S4C trwy lwyfan Sky y tu allan i Gymru.

Fel gwyliwr, nid oes angen i chi wneud unrhywbeth yn wahanol gan fod yr arwyddo ar gael i'n holl wylwyr.

Mae rhaglenni wedi'u harwyddo fel arfer i'w gweld ar y penwythnos neu amser cinio yn ystod yr wythnos neu fe ellir eu gwylio arlein ar S4C Clic.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141, neu anfonwch ebost

  • Cynnwys gydag Iaith Arwyddo

    Cynnwys gydag Iaith Arwyddo

    Ar gael ar S4C Clic

    Mae'n bosib gwylio ein cynnwys gydag iaith arwyddo BSL ar S4C Clic.

  • Cylchlythyr BSL S4C

    Cylchlythyr BSL S4C

    Adlewyrchu Cymru yn ei holl Amrywiaeth: S4C i bawb

    Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaethau. Yn dilyn adborth gan y Gymuned Iaith Arwyddion Prydain (BSL) rydym wedi addasu lleoliad dolen BSL ar ein platfform S4C Clic i'w wneud yn fwy amlwg. I gydfynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod (Mai 10), lansiwyd ein cylchlythyr BSL newydd. Yn y cylchlythyr, mae opsiwn derbyn y wybodaeth trwy fideo Dehonglydd BSL.

    Os am dderbyn y cylchlythyr, cliciwch y botwm isod.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?