Cefndir
Codi ymwybyddiaeth o'n cynnig teithio ac, fel rhan o'n marchnata ar sail digwyddiadau, cynyddu nifer yr ymwelwyr i'n stondinau mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweithredu
Defnyddiom gymysgedd o dactegau marchnata i godi proffil ac ymwybyddiaeth o'n cynnig teithio, a gallu cryfhau hyn a chadw Teithiau Tango ym meddyliau pobl wrth ystyried trefnu eu taith nesaf, roedden ni credu y dylai S4C fod yn rhan o'r gymysgedd marchnata.
Ar ôl siarad â thîm gwerthu hysbysebion S4C, sy'n gofalu am amserlen hysbysebu S4C, roedden ni'n falch iawn o allu manteisio ar y cyfle a gyflwynwyd i ni, sef y pecyn teledu newydd ar gyfer hysbysebwyr newydd ar y sianel.
Cawsom ein cyflwyno i un o bartneriaid cynhyrchu'r tîm, a roddodd i ni, ar ôl derbyn briff gennym ni ynghylch beth yr oeddem ni ei eisiau o ran golwg a theimlad yr hysbyseb, ei negeseuon crai, a beth yr oeddem ni eisiau ei gyflawni yn sgil ei gynhyrchu, amserlen hysbysebu a sgriptiau teledu. Roedd y pecyn hysbysebu yn bodloni'r gyllideb yr oeddem ni wedi'i neilltuo, ac roedd yr amserlen yn adlewyrchu ein cynulleidfa darged o ran y rhaglenni y byddai ein hysbyseb yn cael ei dangos yn eu plith. Rhoddwyd cyfle inni gyfrannu ein syniadau, a chawsant eu croesawu, yn ogystal â chael cyfle i wneud sylwadau ar yr hysbyseb deledu.
Canlyniadau
Roedden ni'n hapus iawn â'r hysbyseb deledu a gynhyrchwyd ar ein cyfer ni, ac rydym ni wedi gallu ei rhoi ar ein gwefan. Rydym ni hefyd wedi gallu ei chynnwys yn ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol, trwy gyfeirio mwy o bobl at ein gwefan trwy gyfeirio pobl at yr hysbyseb.
Gwelsom gynnydd yn nifer y bobl a oedd yn ymweld â'n gwefan, a chynnydd mewn archebion yn sgil hysbysebu ar S4C, ac rydym ni'n hapus iawn. Byddwn yn bendant yn sicrhau y byddwn ni'n cynnwys S4C yn ein cymysgedd marchnata yn y dyfodol, yn enwedig ar adegau pan fydd angen rhoi hwb ychwanegol i'r busnes.
Aled Rees
Rheolwr Gyfarwyddwr
Tango Tours