Cefndir
Mae Gwasg Gomer yn gwmni argraffu a chyhoeddi teuluol wedi'i leoli yn Llandysul. Fe'i sefydlwyd dros 125 mlynedd yn ôl, a dyma'r cwmni argraffu mwyaf yng Nghymru.
Mae Gwasg Gomer yn ymfalchio mewn llyfrau arbenigol, â hunaniaeth Gymreig arbennig: llyfrau Cymraeg ar gyfer oedolion a phlant, a llyfrau Saesneg ar gyfer oedolion a phlant, llyfrau llafar, ardal adnoddau athrawon, ac maent yn argraffu ar gyfer cwmnïau allanol.
Roedd Gwasg Gomer angen ymgyrch i hybu pobl i fynd i'w gwefan, i weld a phrynu eu cyhoeddiadau diweddaraf ar draws y rhestrau arbenigol.
Gweithrediad
Cawsom gyfarfod gyda'r tîm gwerthu hysbysebion yn S4C i drafod partneriaeth fasnachol â'r sianel.
Gan mai S4C yw'r unig sianel deledu benodol ar gyfer y Gymraeg, roedd yn gwneud synnwyr i ni ystyried hyn fel rhan o'n gymysgedd marchnata i hybu pobl i fynd i'n gwefan ar gyfer gwerthiant ac i hyrwyddo ein cyhoeddiadau. Mae rhaglennu S4C yn cyd-fynd â'n gwerthoedd brand ac rydym ni'n rhannu'r un gynulleidfa darged.
Cyflwynwyd yr amserlen raglennu i ni ac roeddem yn falch iawn o gael gwybod y gallem ni gyfrannu ein safbwyntiau. Roedd y broses yn syml ac roedd y tîm yn S4C yn ddeallgar a gwybodus iawn ynghylch beth oedd ein nodau a'r ffordd orau i'w bodloni gyda phecyn hysbysebu pwrpasol ar S4C.
Canlyniadau
O ganlyniad uniongyrchol i'n nawdd, rydym ni wedi gallu defnyddio cynulleidfa wylio S4C, codi ymwybyddiaeth o'n llyfru a hybu pobl i fynd i'n gwefan. Mae wedi ein galluogi ni i gynyddu proffil Gomer ymhlith ein cynulleidfa darged fel brand proffesiynol â chynhyrchion sydd wedi cael eu dylunio i'w hadlonni.
Meirion Davies
Pennaeth Cyhoeddi
Gwasg Gomer Cyf