Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio yn y sector creadigol yng Nghymru. Mae straeon lleol gwych, wedi'u hadrodd yn dda, yn mynd y tu hwnt i dir ac iaith er mwyn i gynulleidfaoedd byd-eang eu mwynhau.
O lwyddiant Y Ferch Dawel yn y Wyddeleg i Dal Y Mellt gan S4C ar Netflix, mae'r tir wedi ei fraenaru ar gyfer cynnwys gwreiddiol nad yw yn Saesneg.
Crëwyd y Gronfa Cynnwys Masnachol gan S4C Rhyngwladol i lwyr wireddu cyfleoedd masnachol newydd i gynnwys a chynhyrchwyr gwych S4C – yn rhyngwladol ac ar lwyfannau gwahanol.
Pa bynnag faes creadigol rydych chi'n rhan ohono, hoffem glywed gennych chi i weld a allwn ni helpu i ddod o hyd i farchnad i'ch syniad.
Byddwn yn cefnogi cynnwys nodedig sydd wedi ei Sgriptio neu sydd heb ei Sgriptio sydd â photensial i gael effaith yn y farchnad – o ran creu enw da neu'n ariannol.
Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn eiddo deallusol sy'n apelio'n fasnachol – fel llyfrau, gemau, animeiddio, a thechnoleg sy'n seiliedig ar gynnwys.
Gyda'r gefnogaeth gywir, gall ein sector dyfu'n greadigol ac yn fasnachol gan barhau â gwaddol sioeau llwyddiannus S4C yn y gorffennol fel Super Ted, Sam Tân/Fireman Sam ac Un Bore Mercher/Keeping Faith ac yn edrych tua'r dyfodol gyda Y Golau/The Light in the Hall, Dal y Mellt, Gwledd/The Feast ac Y Sŵn.
Ein meysydd ffocws fydd: Fformatau wedi eu Sgriptio, Ffeithiol Arbenigol, Dogfen, Adloniant Ffeithiol, Plant (dan 6 oed). Animeiddio lle bo'n ymarferol.
Sefydlwyd y Gronfa gan S4C Rhyngwladol Cyf, isgwmni sy'n eiddo llwyr i S4C, sef darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymru.
Am fwy o wybodaeth, cyngor a blaenoriaethau uniongyrchol, cysylltwch â Phennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol, Claire Urquhart: Claire.Urquhart@s4c.cymru