Cronfa fuddsoddi newydd yw Cronfa Twf Masnachol S4C sy'n cael ei sefydlu o fewn Braich Cyfryngau Digidol S4C. Bydd y Gronfa yn buddsoddi mewn busnesau sy'n cyd-fynd yn agos â nodau strategol hirdymor S4C ac sy'n gallu dangos y cyfle a'r potensial ar gyfer twf. Bydd y gronfa'n gweithredu fel catalydd ar gyfer y twf hwnnw ac yn chwarae rhan amlwg wrth harneisio potensial sylweddol y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Protocol comisiynu pan fo'r Gronfa Twf yn buddsoddi mewn cwmniau cynhyrchu