Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.
Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.
Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.
Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma.
Kristoffer Hughes sy'n teithio'r byd i ddod o hyd i'r ffyrdd mwyaf gwahanol, ac efallai gwell o ddelio â marwolaeth. Dyma daith bersonol i galon marwolaeth.
Mae mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar draws y byd.
Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.
Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.
Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.
Yr awdur Ciaran Fitzgerald, s'yn datgelu'r frwydr i blant gael eu haddysgu yn eu mamiaith. Straeon ysbrydoledig am blant anabl a niwroamrywiol ac am frwydr eu rhieni i gael mynediad i addysg Gymraeg. Noder: Yn drist iawn, bu farw Tomos Llewellyn-Jones, un o'r plant yn y rhaglen, ar Fehefin 2ail, ac fe ddarlledir y ddogfen hon er cof amdano.
Er nad ydi Ioan yn chwilfrydig i ddechrau prosiect newydd i godi arian efo Mair, mae o'n synnu mor llwyddiannus ydi o, ac mae'r ddau'n closio. Mae pethau dal yn chwithig rhwng Lea a Mathew. Wedi i Lea agor fymryn ar y drws, mae Mathew yn meddwl fod gobaith i bethau wella, ond yn cael ei siomi. Wrth i Jason ddechrau paratoi at ei daith rwyfo rownd Ynys Môn mae sawl un yn cynnig cefnogaeth a mae Ben yn falch o gael dweud wrth ei 'ffrindiau' fod pethau'n gwella. Gan fod Cai yn gorfod gweithio yn Co
Mewn rhaglen arbennig, Y Byd ar Bedwar sy'n teithio i'r Unol Daleithiau ar gyfer Etholiad Arlywyddol 2024. Gyda'r ras yn hanesyddol o agos, bydd Siôn Jenkins yn ymweld â rhai o'r taleithiau lle mae Trump a Harris benben â'i gilydd. O erthyliad, i'r economi a mewnfudo - pa ymgeisydd sy'n mynd i ddwyn perswâd pobl America ac ennill y râs i'r Ty Gwyn'
FFASIWN DREFN - RHAGLEN 3 Yn y gyfres hon bydd y cyflwynydd Lara Catrin a'n trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd ar hyd a lled Cymru. 'Lle i bopeth a phopeth yn ei le' yw'r nod. Yr wythnos hon cwpwrdd dillad Dafydd Lennon o Gaerdydd sy'n cael ei drawsnewid.
Cyfres newydd am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Mae Deian a Loli yn cael damwain yn y gegin ac yn torri gliniadur Dad! Maent yn mynd i'r sied i drio ei drwsio. Yno maent yn dod ar draws Hywel Gwifren sy'n esbonio bod angen dod o hyd i'r Sbarc er mwyn trwsio'r gliniadur! A fydd Deian a Loli yn llwyddo'
Kristoffer Hughes sy'n teithio'r byd i ffeindio'r ffyrdd mwyaf gwahanol - ac efallai gwell - o ddelio â marwolaeth. Wedi gweithio gyda chyrff am flynyddoedd mae Kris yn gadael marwdai Cymru ar daith bersonol i galon marwolaeth. Mentro i ben draw y bedd. Y tro hwn, mae Kris yn edrych ar obsesiwn Hollywood gyda marwolaeth, eirch drud, a symudiad newydd compostio cyrff yn Los Angeles a Seattle.
Cyfres newydd lle mae Dot Davies yn mynd â sêr adnabyddus ar daith bersonol ac emosiynol drwy goridorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cartref ein Cyfrinachau, i ganfod y pethe sy'n bwysig iddyn nhw ac i ni ddod i'w 'nabod nhw'n well. Yn rhannu Cyfrinachau'r Llyfrgell y tro yma, llais Cymru yn America, y newyddiadurwr Maxine Hughes.
Yn y drydedd bennod, mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal mewn byngalo yn ardal Merthyr. Ni fydd gan y perchennog syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu- a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'
Uchafbwyntiau awr o hyd o gymal ola Cyfres Triathlon Cymru. Triathlon pellter Olympaidd Llandudno sy'n penderfynu pwy fydd yn dathlu ar y Prom eiconig ac yn cael eu coroni yn Bencampwyr y rasio Agored, y Merched, a'r Clybiau. Lowri Morgan a Gareth Roberts sy'n ein tywys drwy holl gyffro uchafbwynt Cyfres 2024.
Mae 'na ddau gwmni Cymreig wedi gadael eu marc ar farchnad ceffylau rhyngwladol. O wneud dêls gyda Sheiks mwyaf cefnog y Dwyrain Canol i gludo ceffylau Cymreig i rai o gartrefi mwyaf godidog Ewrop. Yn y rhaglen hon dilynwn Gwmni Cludo Ceffylau Nebo ger Llanrhystud a Theulu'r Joneses o Fridfa Bychan ger Llandeilo wrth iddynt geisio gwarchod eu henw da a'u busnesau byd eang trwy gydol cyfnod o newid mawr gyda Covid a Brexit.
Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. OND nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Sut siâp fydd arnyn nhw yn y gegin tybed' A'r ôl y coginio mae'n amser blasu a chyfarfod y gweddill am y tro cyntaf. Beth mae nhw i gyd yn feddwl o ryseitiau ei gilydd' A fydd y bwyd yn plesio' A fydd y sgwrsio a'r bwyd blasus wedi troi tri dieithrin yn ffrind
Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn rhaglen olaf y gyfres mae'n dangos i ni sut i greu prydau 'ffansi pants', rhai sy'n edrych yn fwy cymhleth nag ydyn nhw. Ac mae Mam a Dad Colleen yn dod draw i fwynhau pwdin arbennig.
Rhaglen newydd yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu. Beth yw bod yn Gymry' Sut mae siaradwyr Cymraeg yn edrych ' Beth am yr iaith ni'n ei defnyddio' 75 mlynedd ers I fenwnfudwyr o'r Caribi gyrraedd Prydain ar long y Windrush, Emily Pemberton sy'n holi'r cwestiynau, gan dynnu ar brofiadau ei theulu, ffrindiau a chymuned ddoe a heddiw yng Nghaerdydd.
Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd, diwrnod y sioe ysgol a tydi Loli ddim yn edrych ymlaen ac yn chwilio am unrhyw esgus i beidio mynd. Mwya' sydyn daw sŵn o'r theatr bapur yn y llofft. Thesbis sydd yno'n bytheirio gan nad oes neb yno i berfformio yn y sioe fawr. Tybed fydd y ddau'n barod i fentro i gyfnod arall a helpu'r actor ar ei noson dyngedfennol'
Uchafbwyntiau estynedig o Gyngres UEFA wrth i'r Seintiau Newydd groesawu FC Astana o Kazakhstan i'r Amwythig. Mae'r clwb o byramid Cymru yn cystadlu yn rownd y gynghrair yn un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed. Yr holl gyffro yng nghwmni Dylan Ebenezer, Marc Lloyd Williams a Sion Meredith.
Cyfres wyddoniaeth newydd sy'n mynd ati i egluro sut mae'r byd o'n cwmpas yn gweithio. Heb liw, byddai'r byd yn le tipyn gwahanol, ac yn llawer llai prydferth siwr o fod. Ond sut ydyn ni yn gweld lliw, a sut mae'n ymennydd ni ac hefyd creaduriaid o fyd natur yn dehongli ac yn defnyddio lliw' Dyma rai o'r cwestiynau lliwgar fydd y gwyddonydd Bedwyr ab Ion Thomas yn mynd ati i'w hateb!
Tai crand a chestyll mawreddog, sy'n llawn hanes a thrysorau. Adeiladau sy'n dal i sefyll - diolch i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ond yn ystod y cyfnod clo mae'r llefydd anhygoel yma wedi gorfod cau eu drysau i ymwelwyr, tan rwan, gan fod yr Ymddiriedolaeth wedi rhoi caniatad arbennig i Tudur Owen a'r pensaer Elinor Gray-Williams mynd i fewn i'r adeiladau i ddarganfod eu cyfrinachau. Yn y rhaglen olaf, mae Tudur ac Elinor yn ymweld a thy godidog Erddig. Ty a hanes cadwraeth arbennig gan yr Y
O'r Castell, i Stadiwm Principality, i'r Senedd - mae llwybr Hanner Marathon Caerdydd yn mynd a'r rhedwyr heibio rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus ein Prifddinas. Lowri Morgan a Rhodri Gomer Davies fydd yn ein tywys drwy uchafbwyntiau'r ras eiconig yma. O¿r rhedwyr elit i¿r rhedwyr hamdden mae pob un a¿i stori a¿r wefr o gystadlu yn siwr o ysbrydoli.
Mae'r artist Steve 'Pablo' Jones o Gaernarfon yn pacio bag ac yn mynd i Covent Garden yn Llundain, i Eglwys Sant Paul ble mae'n cwrdd â'r canwr Aled Jones er mwyn gwneud portread ohonno. Er bod Aled a Steve yn edrych fel y cwpwl od, fe wnaethon nhw dynnu mlaen yn syth ac yn sgwrsio fel cwpl o hen ffrindiau. Mae Aled yn teimlo y gall fod yn agored am yr amser pan gollodd y cariad at ganu ond a fydd Steve yn gallu dal y bregusrwydd hwnnw pan ddaw i'r portread'
Y cerddor, DJ a chyflwynydd radio o'r gogledd-ddwyrain, Talulah, sy'n curadu'r bennod gyntaf o'r gyfres newydd. Bydd sgyrsiau a cherddoriaeth wrth rhai o'r artistiaid sydd wedi dylanwadu arnynt; Gillie, Marva Jackson Lord a N'famady Kouyate yn ogystal â thrac byw o EP newydd Talulah - Solas.
Ers y ras gynta yn 2011 mae Ironman Cymru yn Ninbych y Pysgod wedi ennill statws eiconig ymysg rasys triathlon y byd. Y cwrs yn cael ei ystyried ymysg y mwya heriol, y golygfeydd gyda'r mwya trawiadol a'r cefnogwyr y mwya gwallgo a swnllyd! Yma, cawn Lowri Morgan a Rhodri Gomer-Davies yn cyflwyno a Gareth Roberts yn sylwebu ar uchafbwyntiau un o brif ddigwyddiadau chwaraeon torfol Cymru.
Ailddarllediad i nodi Mis Hanes Pobl Ddu. Bydd Sean Fletcher yn cyflwyno rhaglen ddogfen a fydd yn hoelio sylw ar Derfysgoedd Hil Caerdydd 1919. Dyma ddarn o hanes Cymru sydd wedi ei guddio, er iddo hawlio penawdau papurau newydd ar draws Prydain ar y pryd ac wedi ysgwyd y ddinas i'w seiliau am genedlaethau. Bydd Sean yn cyfarfod a bobl ifanc y ddinas heddiw i glywed am ei profiadau a'u barn dros gan mlynedd yn ddiweddarach.
Un o gymoedd enwocaf, thawiadol ac hanesyddol ein gwlad yw'r Rhondda - Cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ac fel cyflwyniad i fro'r Steddfod, beth gwell na gwahodd 4 o gymeriadau lleol i ddangos eu milltir sgwar fach nhw ar ei orau. Paratoi picnic blasus, a rhannu ffeithiau diddorol a golygfeydd gwefreiddiol wrth gystadlu am fil o bunnau.
Rhifyn arbennig o'r gyfres fel rhan o Wythnos Traethau S4C, lle cawn ein tywys ar hyd pedair taith arfordirol ddifyr. Pwy o'r gr¿p fydd â'r wibdaith fwyaf cofiadwy, y picnic mwyaf blasus a'r ffeithiau mwyaf diddorol' Diane Roberts o Borthaethwy, Larissa Armitt o Abersoch, Paul Davies o Bognor Regis (ond o'r Rhondda'n wreiddiol), a Dewi Edwards o Lanilltud Fawr yw'r pedwar bydd yn mynd benben am y cyfle i ennill £1,000.
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Mae Bois y Rhondda yn ôl. Cawn gipolwg unigryw ar fywydau grŵp o ffrindiau sydd yn dod i delerau â chymhlethdodau cymdeithas fodern, a'r brwydrau sy'n wynebu eu cenhedlaeth nhw ar adeg ansicr. Sut bydd deinameg y ffrindiau yn newid wrth i'r bechgyn symud ymlaen i'r cam nesaf' Sut fydd eu perthynas â'u teuluoedd yn datblygu' Bydd llawer o chwerthin a dwli wrth i'r camerau ddilyn y criw egnïol yn llywio'u ffordd drwy fywyd. Yn rhaglen ola'r gyfres, bydd y bois yn dod at ei gilydd mewn digwydd
Mae 3 seleb yn paratoi pryd o fwyd 3 chwrs i'w fwynhau gyda'i gilydd. Ond dydyn nhw ddim yn gwybod tan cyrraedd y bwrdd pa selebs fydd yn rhannu eu 'bwrdd i dri' . Fe fydd pob seleb yn gyfrifol am ddewis un cwrs ond fe fydd gofyn i'r tri baratoi a choginio cwrs - sut siap fydd arnyn nhw yn y gegin tybed' Y tri seleb yn y bennod yma fydd Lloyd Macey, Eadyth Crawford a Sion Tomos Owen.
Tro yma bydd Chris yn mynd efo'i ffrindiau am benwythnos epic mewn bwthyn bach yng nghanol coedwig ym Metws y Coed. Mi fydd yn chwilota am drysor y goedwig i wneud pryd llawn madarch, ac yn paratoi stec a ¿yau i'r hogia i leddfu'r hangofyr yn y bore! Ond yr her fwyaf fydd coginio mochyn cyfan ar 'spit' wedi'i adeiladu gan ei fêts a'i bweru gan dd¿r yr afon. Epic!
Mari Lovgreen sy'n cwrdd â Kees Huysmans o'r Iseldiroedd a sefydlodd fusnes Waffles Tregroes wedi setlo yn Nyffryn Teifi union 40 mlynedd yn ôl. Hanes bywyd Kees, y llon a'r lleddf, a sut wnaeth croeso bro helpu creu busnes llewyrchus - heb son am ennill Rhuban Las yr Eisteddfod Gendlaethol.
Rhifyn arbennig o Cefn Gwlad ble fydd camerau S4C yn ail ymweld â ffarm Ffridd, Dyffryn Nantlle a'r teulu oedd yn destyn y ffilm ddogfen blant ¿Byd Mari¿, greodd argraff fawr 20 mlynedd yn ôl. Mari Lovgreen sy'n darganfod beth ydi hanes Bryn a Glenda Hughes erbyn hyn, gan weld sut mae'r plant Mari, Gwawr a Gerallt yn dal i droi'r tir ac yn rhannu'u cariad hwythau at gefngwlad gyda'r genhedlaeth nesaf.
Ar drothwy'r Eisteddfod Genedlaethol dathliad o gamp a bywyd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2023, Alison Cairns. Symudodd yr Albanes i Gymru yn 2007 ar ôl cwrdd â Sion Roberts, Tryfil Uchaf a bwrw gwreiddie yn Ynys Mon - nawr mae'r ddau nawr yn magu a 7 o blant ar ei ffarm yn Llandrygarn, Llanerchymedd. Mari Lovgreen sy'n rhyfeddu ar sut mae'r cwpl yn cadw'r cyfan ar y cledrau.
Cyfle arall i weld y ddogfen hon yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Anffrwythlondeb y Byd. Dyma raglen fydd yn dilyn profiad personol y canwr a'r cyflwynydd poblogaidd Elin Fflur a'i g¿r Jason yn ystod eu triniaeth IVF, o ddiwrnod cyntaf y cylch hyd at y canlyniad tyngedfennol. Hanes taith emosiynol cwpl sy'n dyheu i fod yn rieni a stori sydd erbyn hyn yn gyfarwydd iawn i nifer o gyplau a theuluoedd yng Nghymru heddiw.
Dathlu hanes pobl dduon Cymru. Y tro hwn: mae Iwan Pyrs Jones yn adrodd yr antur anhygoel a fwynhaodd ef a'i gyd-chwaraewyr Ysgol Glantaf pan wnaethant greu hanes trwy fod y tîm cyntaf erioed yng Nghynghrair Rygbi Cymru i ennill yn Stadiwm Wembley yn Rowndiau Terfynol yr Ysgolion. Bu Iwan yn arwr y maes wrth iddo redeg y 60 metr llawn i sgorio cais. Wrth ail-fyw'r fuddugoliaeth hon, mae e'n galw ar bawb i frwydro yn erbyn hiliaeth.
Bydd Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Siôn Tomos Owen yn crwydro o amgylch Pontypridd; tref cafodd ei siapio gan sawl diwydiant gwahanol. Cawn glywed am sawl cymeriad gwnaeth eu henw yma gan gynnwys y 007 gwreiddiol ac Archdderwydd lliwgar o'r gorffenol yn ogystal â chael hanes y bont enwog roddodd enw i'r dref a chyfle i nofio yn yr awyr agored.
Nant Conwy - ardal gyfoethog o ran diwylliant a chyfoeth naturiol lle mae sawl cwm a phentre yn cyfuno i greu bro ddiddorol i'w darganfod gan y tim. Bydd Heledd yn cloddio, Ffion yn dysgu mwy am gysylltiadau'r fro gyda'r eisteddfod, Iestyn yn dilyn yr afon i'w tharddle a Sion yn crwydro i adrodd hanes un o bontydd enwog yr ardal.
Ymunwch ag Elin Fflur yn fyw o faes ein prifwyl ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd i fwynhau perfformiadau o lwyfannau'r Eisteddfod. Ar Lwyfan y Maes cawn fwynhau gwledd o ganu gan neb llai nag Eden wrth iddynt gloi'r Eisteddfod eleni. O'r hen i'r newydd, mae yna rywbeth yma at ddant pawb.
Er mai fel cyflwynydd Cefn Gwlad roedd Dai Llanilar fwyaf adnabyddus, fe wisgodd sawl het gan arwain tair cyfres hirhoedlog arall oedd yn gonglfeini arlwy S4C - Siôn a Siân, Rasus a'r Sioe. Camp a chymeriad unigryw na welwn ei debyg eto -Nia Roberts, ffan, ffrind a chyd-gyflwynydd sy'n dathlu'i gyfraniad unigryw tu hwnt i filltir sgwar cyfres Cefn Gwlad.
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld ag ysgubor hynafol sydd bellach wedi'i hadfywio'n gartref hyfryd ger Llangollen, adeilad Sioraidd gyda golygfeydd godidog a phrosiect newydd sbon yn Ffwrnais sy'n gartref perffaith i'r teulu fyw a gweithio yno.
Noson o gomedi LHDTC+ wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Eglwys Norwyaidd hanesyddol Bae Caerdydd, wedi ei chyflwyno gan Al Parr. Sêr y sioe yw rhai o ddigrifwyr gorau Cymru - Priya Hall, Ellis Lloyd Jones, Leila Navabi, Chris Rio, a Sianny Thomas. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan Gymuned Ddawnsfa Gymreig.
Hydref 2021 - gyda'r gwasanaeth iechyd yn wynebu'r gaeaf gwaethaf yn ei hanes - un person yng nghanol y cyfan oedd Gweinidog Iechyd newydd Cymru, Eluned Morgan, sydd erbyn hyn yn Brif Weinidog Cymru. Yn y rhaglen ddogfen arbennig hon, cawn gipolwg unigryw ar ei bywyd dyddiol hi fel Gweinidog Iechyd yn ei misoedd cyntaf yn y swydd.
Garmon ab Ion sy'n arwain y gynulleidfa trwy gyfres o heriau sy'n seiliedig ar fformatau gemau sydd wedi eu gweld yn flaenorol ar fideos Hansh. Yn gymysgedd o wynebau cyfarwydd y sianel ac aelodau o'r gynulleidfa, bydd Garmon yn ceisio ateb y cwestiwn bytholwyrdd "Pwy sy'n well: Gogs neu Hwntws'" Bydd y cystadleuwyr yn mynd benben yn erbyn wynebau cyfarwydd y sianel mewn heriau poblogaidd e.e 'Cwis Trydanol', 'Be Sy' Yn Y Bocs' a 'Dwi erioed wedi'.
Yn y bennod olaf, mae ein 3 cynllunydd creadigol, sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones, yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal/ ystafell mewn catref yn ardal Grangetown, Caerdydd. Gyda'r bath yn llawn planhigion, mae tipyn o her gan ein cynllunwyr yn yr ystafell molchi yr wythnos hon! Ni fydd gan y pâr syniad sut hwyl geith y tri, a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu - a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn dy newydd'
Cyfres realiti yn dilyn teulu tair cenhedlaeth o Benparc, Sir Gaerfyrddin sy'n byw a bod y byd amaeth. Rydym yn eu gweld yn ymestyn eu fferm deuluol er mwyn sicrhau pob cyfle masnachol posib a helpu Myfanwy ac Adrian i sicrhau'r dyfodol gorau i'w 3 plentyn. Does dim dal nôl ar y teulu yma - maent yn rhannu gwybodaeth ac emosiynau yn onest ac yn glir. Tro hwn, mae pen-blwydd mawr gyda theulu Penparc¿ A fydd yna ddathlu mawr' Ma'i Off 'Ma!
Be sy'n mynd mlaen mewn un o'r 'car meets' drwg-enwog sy'n denu miloedd ar filoedd o bobl ifanc ar draws Prydain bob wythnos' Dyna mae criw ceir Unit Thirteen isio ffeindio allan yn y bennod olaf o'r gyfres, cyn neidio o un eithaf i'r llall a theithio ar draws y môr Gwyddelig at LZ Festival i weld ffordd llawer gwell - a saffach - o fwynhau ceir.
Mae Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn cynnig help llaw i'r cwpwl Lleucu a Stephen o Landysul er mwyn gwireddu eu breuddwyd o ddweud 'Gwnaf', a gyda fan melyn adnabyddus yn bresennol, mae'r rhaglen yn sicr o godi gwên. Ac er tydi'r trefnu ddim yn fêl i gyd, mae 'na un syrpreis ar ôl y llall, gydag Emma yn tynnu mewn cymwynas gyda neb llai nag EDEN.
Mae Emma a Trystan yn helpu criw o elusen arbennig Seren ym Mlaenau Ffestiniog i adnewyddu gardd. Gydag help y cynllunydd crefftus Gwyn Eiddior a gyda dim on pum mil o bunnoedd, mae'r ddau gyflwynydd yn crwydro'r gymuned am wirfoddolwyr brwd a chwmnïau lleol gall helpu gyda'r prosiect. Bydd angen degau o bobl a thunelli o ddeunyddiau i gwblhau'r prosiect ond hyd yn oed wedyn, mae hi am fod yn brosiect a hanner. Â fydd modd cwblhau y cynllun uchelgeisiol dros y penwythnos, tybed'
Mae'r byd a Chymru wedi newid am byth ac mae Tudur wedi bod yn ceisio gwneud synnwyr or cyfan. Ydi'r byd angen bod mwy diog' Fydd Lloegr byth yn wlad annibynnol' Dylia' plismyn iaith wisgo iwnifforms' Mae Tudur yn gofyn y cwestiynau yma a llawer mwy yn ei sioe stand yp newydd, wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Ond oes ganddo atebion' Go brin!