Ryseitiau
Rhaglen 1 - Rhew Cyw Iâr & Afal Cnau
Rhew Cyw Iâr
Cynhwysion
- Cyw Iâr
- Stoc Cyw Iâr
Offer
- Mowld rhew (siap asgwrn)
- Jwg
Dull
- 1.Torra'r cyw iâr yn fân a'u gosod yn y mowld
- 2.Tollta'r stoc i'r mowld tan ei fod yn gorchuddio'r cyw iâr
- 3.Rho nhw'n y rhewgell am ddwy awr
- 4.Cyn eu rhoi i'r ci – gad iddyn nhw doddi ychydig bach
Afal Cnau
***Os oes gen ti alergedd I gnau – paid gwneud y bwyd yma***
Cynhwysion
- Afal
- Menyn cnau (peanut butter) braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg I'r ci.
Offer
- Teclyn tynnu canol afal, neu gyllell I dynnu'r canol.
Dull
- 1.Golcha'r afal a thynna'r canol oddi yno gyda'r teclyn (falle fyddi di angen help gyda'r cam yma)
- 2.Llenwa'r canol gyda menyn cnau
Hufen Iâ Ci Da
***Os oes gen ti alergedd I gnau – paid gwneud y bwyd yma***
Cynhwysion
- 1 cwpan o iogwrt plaen braster llawn (nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci)
- 1 banana
- Menyn cnau (peanut butter) braster llawn (nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci)
- Ffyn 'Rawhide'
Offer
Cymysgydd (blender)
Cwpanau papur
Dull
- 1.Rho'r cynhwysion yn y cymysgydd
- 2.Tollta'r gymysgedd I'r cwpanau
- 3.Rho'r cwpanau yn y rhewgell am 2 awr
- 4.Yna, rho'r ffon 'rawhide' yng nghanol y gymysgedd
- 5.Bydd angen gadael nhw yn y rhewgell am 2 awr arall
- 6.Ar ôl eu tynnu o'r rhewgell, torra'r cwpan papur i ffwrdd, gad iddyn nhw doddi ychydig cyn eu rhoi i'r ci.
Da Das Ci Da
***Os oes gen ti alergedd I gnau – paid gwneud y bwyd yma***
Cynhwysion
- 1 cwpan o iogwrt plaen braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci.
- ½ cwpan o fenyn cnau braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner).
Offer
- Tun pobi (baking tray)
- Papur coginio (parchment paper)
- Bag 'ziplock'
- Siswrn
Dull
- 1.Rho'r papur coginio ar y tun pobi
- 2.Cymysga'r iogwrt a'r menyn cnau gyda llwy nes ei fod yn feddal.
- 3.Rho'r gymysgedd mewn bag ziplock
- 4.Torra gornel y bag gyda'r siswrn
- 5.Pibella'r gymysgedd mewn i ddisgiau bach ar y tun
- 6.Rho'r tun yn y rhewgell am 30 munud, gad iddyn nhw doddi ychydig cyn eu rhoi i'r ci.
Rhaglen 5 - Pawennau Llawn Llus Cynhwysion
- 1 cwpan o lus (blueberries)
- 1 banana
- 170g o Iogwrt Plaen braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci.
Offer
- Mowld siap pawen (neu mowld creu iâ)
- Cymysgydd (blender)
Dull
- 1.Rho'r cynhwysion yn y cymysgydd nes bod popeth yn hylif
- 2.Tollta'r gymysgedd mewn i'r mowld
- 3.Rho'r mowld yn y rhewgell am ddwy awr, gad iddyn nhw doddi ychydig cyn eu rhoi i'r ci i'w bwyta
Rhaglen 6 - Bisgedi Menyn Cnau
***Os oes gen ti alergedd i gnau – paid gwneud y bwyd yma***
Cynhwysion
- 1 cwpan o flawd gwenith cyflawn (wholemeal)
- 1 cwpan o ddŵr
- 1 cwpan o fenyn cnau (peanut butter) braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci.
- 2 lwy fwrdd o fêl
- 1 ŵy
- 1 llwy de o bowdr pobi (baking powder)
Offer
- Tun pobi (baking tray)
- Powlen
- Rholbren
- Torrwyr bisgedi (neu wydr ben i waered)
Dull
- 1.Cymysga'r blawd, yr ŵy a'r powdr pobi
- 2.Ychwanega'r dŵr, menyn cnau a'r mêl i'r bowlen
- 3.Cymysga'r cyfan nes ei fod yn edrych fel toes bisgedi
- 4.Rho ychydig o flawd ar y bwrdd a rholia'r gymysgedd i drwch o tua 1cm.
- 5.Defnyddia'r torrwyr (neu'r gwydr) i wneud y bisgedi yna'u gosod ar y tun pobi.
- 6.Falle fyddi di angen help oedolyn gyda'r rhan yma –
- coginia'r bisgedi yn y popty am 18 munud ar dymheredd o 180˚ neu marc nwy 4.