Ryseitiau Nia, Osian ac Emily
Stêc tiwna Nia
Stêc Tiwna , tatws rosti a salsa
Cynhwysion
taten Maris Piper (1)
menyn
olew (sunflower)
lemon
garlleg
pupur a halen
Soy sauce
sudd oren
lime (2)
1 winwns coch (bach)
tomato bach melys (3)
chili coch (1)
coriander ffres
siwgr caster
olew olewydd
stêc Tiwna
Dull:
- Cymysgu garlleg, olew olewydd, sudd oren a lemon, saws soy, halen a phupur, a'i arllwys dros y tiwna .
- Plicio a gratio taten a'i roi mewn llian glân a gwasgu'r dŵr allan. Agor y llian a rhoi digon o halen a phupur dros y daten.
- Arllwys olew olewydd i badell ffrio ar wres cymhedrol a gosod "ring" metel yn y canol, yna gosod y tatws yn y ring. Troi'r gwres i lawr yn isel.
- Salsa - torri y winwns coch, tomatos, chili a coriander yn fân a rhoi'r cyfan mewn powlen ac arllwys sudd leim drosto.
- Rhoi griddle ar wrês uchel. Tynnu'r tiwna o'r marinêd a'i osod ar y griddle. Coginio am 3 munud bob ochr. Tynnu'r tiwna o'r griddle a'i adael ar blât cynnes gyda ffoil drosto i'w gadw'n gynnes.
- Tynnu'r ring i ffwrdd a throi'r tatws rosti drosodd. Parhau i'w goginio ar wres isel am 5 i 8 munud arall gan ofalu fod e ddim yn llosgi.
- Gosod y cyfan ar blât a'i weini
Samwn gyda dil a garlleg wedi'i weini gyda phasta ffres Osian
Samwn gyda dil a garlleg wedi'i weini gyda phasta ffres, ffa gwyrdd, samphire , salsa verde almonau , basil a darnau o bomegranad.
Cynhwysion :
2 x filed samwn gwyllt
dill ffres
garlleg
olew olewydd
10 tomato bach
200g spinach/spigoglys
150g ffa gwyrdd
100g asparagus
garlleg
basil ffres
50g almonau (blanched)
50g caws parmesan
1 lemwn
1 leim
1 pomegranad
I'r pasta ffres :
!00g blawd plaen
1/4 llwy de o halen
1 ŵy
1/2 llwy fwrdd o olew olewydd
Tollta'r blawd ar y brwdd a gwna gylch yn y canol . Torra wŷ i'r cylch ac ychwanega'r halen a'r olew.
Gan ddefnyddio llwy bren , cymysga'r blawd gyda'r wŷ, a phan made gen ti gymysgedd crwbl defnyddia dy ddwylo i greu toes meddal . Gwna hyn am ychydig o funudau .
Rolia'r toes yn sgwariau mawr ac yna rhannau'r sgwariau yn strips hir . Rho ychydig o flawd man dros y cyfan a gad y toes i un ochr . one side.
Samwn
Rho'r samwn mewn desgl popty gyda garlleg ac ychydig o dil ac olew olewydd . Rho fe yn y popty am 15 munud ar 150C gradd .
Pasta
Nol at y pasta – rho'r strips mewn dwr berwedig am 10 munud .
Stemia'r ffa gwyrdd am 10 munud , gyda'r spinach a'r samphire
Y salsa verde
Cymysga'r basil , almonau , lemon a'r olew I greu salsa gwlyb .
Yna rho'r pasta mewn powlen fawr gyda'r samwn ar ei ben , tollta'r salsa ar ben y samwn ac ychwanega'r ffa gwyrdd , y spinach a'r samphire cyn gorffen gyda ychydig o hadau pomegranad .
Gweina !
Brest hwyaden 'five spice gyda salad ffa gwyrdd Emily
Brest hwyaden 'five spice gyda salad ffa gwyrdd
Cynhwysion:
2 Brest hwyaden
five spice
Mêl
saws Soy
ffa gwyrdd
hazelnuts
finegr Sherry
Sgoriwch croen yr hwyaden mewn patrwm croes gyda chyllell miniog. Rhwbiwch halen a five spice i'r frest gan ganolbwyntio ar y croen.
Rho'r frest, gyda'r croen i lawr ar ffreipan sych a'i goginio ar wres isel am 8-10 munud.
Tro'r gwres i fyny a ffrio nes bod y croen yn grimp. Tro'r frest a ffrio'r ochr arall am 3-4 munud. Cyn ei orffen rho ychydig o fêl a saws soy drosto ac aros nes ei fod yn surop. Rho'r frest ar blat cynnes a'i orffwys am 5-10 munud.
Berwa'r dwr i'r ffa gyda pinsiad o halen a choginio am 1 munud.
Dull :
Mala'r cnau gyda 'pestle and mortar'. Golcha'r ffa a'u sychu gyda phapur cegin. Chwisgia'r olew , finegr, pupur a halen ac ychwanega'r ffa i'r hylif.
I weini rho'r ffa ar un ochr o'r plat a torra'r hwyaden yn sleisys trwchus ar ben. Rho unrhyw sudd sydd ar ol dros yr hwyaden.