Byns Eisin
Byns melys blasus ydy her wythnos yma
CYNHWYSION
AR GYFER Y TOES:
250g o flawd bara gwyn cryf
20g o siwgr mân
20g o fenyn wedi'i feddalu
1 wy mawr, wedi'i guro
Sachet (7g) o furum gwib
½ llwy de o halen
80ml o laeth cynnes
50ml o ddŵr
AR GYFER YR EISIN:
250g o siwgr eisin
2-3 llwy fwrdd o ddŵr, yn ôl yr angen
Gel lliwio bwyd melyn
Ysgeintiad (sprinkling) siwgr
AR GYFER YR HUFEN CHANTILLY:
300ml o hufen dwbl
30g o siwgr eisin
2 lwy de past fanila
DULL
Cam 1
Cynheswch y popty i 190 ° C.
I wneud y toes, rhowch yr holl gynhwysion sych ym mhowlen y cymysgydd stand gyda'r bachyn toes arno.
Ychwanegwch y llaeth, yr wy wedi'i guro, y menyn wedi'i feddalu a hanner y dŵr, yna ei gymysgu nes i'r toes ddod at ei gilydd.
Ychwanegwch y dŵr sy'n weddill yn araf i ffurfio toes gludiog.
Cymysgwch ar gyflymder uchel am 8 munud nes bod y toes yn llyfn ac yn elastig.
Rhowch y toes mewn powlen ag olew ynddo a'i adael i brofi am 45 munud neu nes ei fod wedi dyblu mewn maint yn unig.
Cam 2
Rhowch ychydig o flawd ar y cownter a rhowch y toes sydd wedi dyblu mewn maint arno a'i dylino.
Tylinwch am 2 funud nes ei fod yn llyfn. Rhannwch y toes yn 6 darn, yna rholiwch ef yn beli a'i siapio i mewn i fysedd tua 12-13cm o hyd.
Rhowch fysedd y toes mewn llinell ar ddalen pobi olewog, gan adael lle rhyngddynt fel eu bod yn cyffwrdd â'i gilydd wrth godi.
Rhowch yr hambwrdd mewn bag profi a'i roi o'r neilltu mewn lle cynnes am 30 munud.
Cam 3
Ar gyfer yr eisin, rhowch y siwgr eisin mewn powlen a'i chwisgio'n raddol gyda 1 llwy fwrdd o ddŵr ar y tro i greu past trwchus, gan guro unrhyw lympiau.
Cam 4
Ar ôl i'r bysedd toes brofi, pobwch am 10 munud neu nes eu bod yn frown ac yn euraidd. Rhowch o'r neilltu i oeri.
Cam 5
Ar gyfer yr hufen chantilly, chwisgiwch yr hufen, siwgr eisin a fanila gyda'i gilydd tan yn feddal.
Cam 6
Sleisiwch bob bys yn llorweddol gan greu top a gwaelod cyfartal a thaenu haen o jam ar hanner isaf pob bynsen.
Peipiwch yr hufen ar ben y jam.
Cam 7
Llyfnwch yr eisin dros y fynsen gyda'ch bys, yna rhowch sprinkles arno. Gadewch iddo osod am ychydig funudau ar rac weiren.