Brownies Siocled
Y pwdin gorau erioed, ond a fydd Ows a Leah yn gallu llwyddo i wneud brownies blasus?
BROWNIES
Cynhwysion
Ar gyfer y Brownies
165g siocled tywyll 70%
165g menyn heb halen
330g siwgr mân caster
3 wy mawr
45g powdwr coco
120g blawd plaen
1/2 llwy de o bowdr pobi
1/2 llwy de o halen
Ar gyfer y Peanut Butter Cookie Dough
85g menyn heb halen, meddal
150g siwgr meddal brown golau
15g siwgr demerara
3 llwy fwrdd o iogwrt
210g menyn cnau daear llyfn (smooth peanut butter)
150g blawd plaen
3/4 llwy de o halen
50g dranau man o siocled llaeth
Ar gyfer y Ganache
150g siocled tywyll 70%
150 hufen dwbl
DULL
- Meddalwch y siocled a'r menyn mewn powlen
- Gadewch i'r siocled/menyn i oeri.
- Wisgiwch yr wyau ac yna ychwanegwch y siwgr caster mewn powlen arall - wisgiwch am tua 5 munud tan yn fwy trwchus.
- Ychwanegwch y cynhwysion sych i'r gymysgedd wyau
- Ychwanegwch y gymysgedd siocled at y gymysgedd arall.
- Lledaenwch mewn i tin 10 modfedd. Pobwch ar 160◦c am 20-22 munud.
DULL Cookie Dough
- Cymysgwch menyn, siwgr meddal brown a'r siwgr demerara yn y cymysgydd. Ychwanegwch yr iogwrt a'r cnau daear llyfn.
- Ychwanegwch y cynhwysion sych.
- Ychwanegwch y darnau siocled (Choc chips) a'r halen.
- Lledaenwch ar ben y brownies tan yn llyfn.
DULL Ganache
- Meddalwch y siocled gyda'r hufen. Gadewch i oeri am gwpwl o funudau.
- Ychwanegwch at y gymysgedd brownie.
- Rhowch Siocledi Peanut Butter ar dop y brownies fel addurniad
- Rhowch yn yr oergell am tua 2 awr i galedu