Rysait Yule Log
CYNHWYSION
AR GYFER Y SPWNG SIOCLED:
65g o flawd codi
100g o siwgr mân
4 ŵy mawr.
40g o bowdwr coco.
AR GYFER Y LLENWAD:
- 300ml o hufen dwbl
AR GYFER YR EISIN SIOCLED AC ADDURNIADAU:
100g o fenyn wedi ei feddalu
200g siwgwr eisin
3 llwy fwrdd o laeth
2 ½ llwy fwrdd o bowdwr coco
DYNION EIRA
- 6 Ferrero Rocher neu 6 siocled Raffaello
- Eisin fanila parod.
- Eisin siocled parod.
- Ychydig o gyrants neu adduriadau tebyg.
- 2 Lasyn licorys coch.
- 1 llwy fwrdd o siwgwr eisin.
FYDD HEFYD ANGEN
Tin Pobi 'Rolyn Swiss'
Papur Pobi
DULL
Cam 1
- Cynheswch y popty i 200 ° C.
- I greu y spwng siocled, chwisgiwch yr wyau a siwgwr gyda'i gilydd nes bod yn troi'n liw melyn golau ac yn ysgafn.
- Ychwanegwch y blawd a'r powdwr coco i'r gymysgedd drwy sifio ac yna cymysgu.
- Paratowch y tin pobi wrth uro'r tin yn gyntaf gyda menyn ac yna gosod papur pobi dros ben ac yna ei uro'n dda eto.
- Arllwyswch y gymysgedd i fewn i'r tin ac yna llyfnwch fel ei fod yn gwasgaru a llenwi'r tin.
- Rhowch y tin yn y popty am 8-10 munud.
Cam 2
- Torrwch bapur popi i'r un maint a't tin a'i osod ar cownter neu fwrdd y gegin.
- Gwasgarwch siwgwr eisin dros y papur nes ei fod wedi'i orchuddio.
- Trowch y spwng siocled allan ar ben y papur a roliwch y sbwng yn dynn o'r ochor lleiaf i'r ochor arall tra dal yn dwym.
- Gadewch i'r sbwng orffwys tra yn gwneud y llenwad.
Cam 3
- Ar gyfer y llenwad hufen, chwisgiwch yr hufen tan ei fod yn drwchys.
- Pan yn barod a bod y sbwng siocled wedi oeri, dat-roliwch y spwng a lledeinwch yr hufen dros y spwng siocled.
- Roliwch y spwng unwaith eto a dyma chi eich rolyn spwng yn barod i addurno.
Cam 4
- Ar gyfer yr eisin siocled chwisgiwch y menyn am 4 munud nes ei fod yn feddal.
- Ychwanegwch y siwgwr eisin a powdwr coco i'r menyn gan ddefnyddio bach o laeth os oes angen nes bod y gymysgedd yn llyfn.
Cam 5
- Gorchuddiwch y rolyn spwng gyda'r eisin siocled ac yna defnyddiwch fforc i greu llinellau yn yr eisin i edrych fel boncyff coeden.
Cam 6
- Nawr i greu y dynion bach eira.Yn ofalus gan ddefnyddio sgewer pren, rhowch y siocledi ar y sgewer un ar y tro.Mi fydd angen dau siocled ar y sgewer i greu siap dyn eira.
- Yna gan ddefnyddio lasyn licorys, clymwch hanner ffordd rhwng y siocledi i greu sgarff y dyn eira.
- Defnyddiwch eisin parod, cyrants ac addurniadau i rhoi gwyneb i'r dynion eira.Gosodwch ar ben y Yule Siocled.Mwynhewch !