Tartenni Siocled Rwdolff
TARTENNI SIOCLED RWDOLFF
CYNHWYSION AR GYFER 12 TARTEN.
AR GYFER Y BISGEDI:
- 225g o flawd plaen.
- 1 llwy de o soda pobi
- ½ llwy de o enllyn fanila
- 150g o goconyt sych mân.
- ½ llwy de hufen tartar
- 2 llwy fwrdd o surop euraidd
- 1 llwy fwrdd o laeth.
- ¼llwy de o halen.
- 2 lwy fwrdd o fenyn
- 1 150g siwgr mân
- 1 ŵy mawr.
AR GYFER Y LLENWAD:
- 75ml o hufen dwbl.
- 65g o fenyn.
- 200g siocled tywyll.
AR GYFER YR ADDURNIADAU:
24 Pretsel
12 Smarties coch neu lolipop coch
6 Malws Melys Gwyn mawr.
- 24 Malws Melyn Gwyn bach
3 Llwy Fwrdd o Buttercream parod.
- Eising siocled parod.
FYDD HEFYD ANGEN
Tin Pobi Byns 12 cwpan.
DULL
Cam 1
- Cynheswch y popty i 180 gradd selsiws
- Gwnewch y bisgedi drwy rhoi y cynhwysion i gyd mewn powlen a cymysgu tan iddynt greu toes.
- Roliwch y toes i fewn i peli bach a'i gosod ar tin pobi.
- Pobwch yn y ffwrn am 8-10 munud ac yna gadewch i oeri am ychydig
Cam 2
- Tra fod y bisgedi dal yn gynnes, siapiwch i fewn i tin bun fel fod y bisgedi nawr mewn siap cwpannau. Dylse fod 12 gyda chi i gyd.Gadewch i oeri yn y tin.
Cam 3
- Gwnewch y llenwad drwy cynhesu y menyn, hufen a siocled mewn sospan.Trowch y gymysgedd am oddeutu 7 munud dros tymherdd isel nes fod y gymysgedd wedi toddi ac yn llyfn.Arllwyswch y gymysgedd i fewn i powlen lân a rhowch yn yr oergell am 20 munud tan ei fod wedi oeri ond ddim wedi setio.
Cam 4
- Gyda llwy llenwch pob cwpan bisged gyda'r gymysgedd ac rhowch yn yr oergell eto i setio.
Cam 5
- ADDURNO!Pan fod y gymysgedd wedi setio dewch a'r tin allan o'r oergell a nawr mae'n amser creu'r ceirw!
- Defnyddiwch yr eisin parod fel glud tra yn gosod yr addurniadau yn eu lle.
- Gan ddefnyddio siswrn, yn ofalus, torrwch 6 malws melys gwyn mewn hanner a gosodwch ar y tartenni.Rhain fydd dechre y trwynnau coch!
- Gosodwch losin neu lolipop coch ar y malws melys gwyn, dyma ni trwyn rwdolff.
- Gan ddefnyddio pretsils, rhowch un ar bob ochor y tartenni fel antlers.
- Gorffenwch drwy osod dau malws melys bach uwchben y trwyn a gan ddefnyddio eisin siocled rhowch smotyn ar ben bob malws melys fach fel eu bod yn edrych fel llygaid rwdolff.
Mwynhewch!