Pastai Nadolig
Pastai Nadolig
AR GYFER Y TOES:
- 100g o fenyn oer
- 225g o flawd plaen
- Pinsiad o halen
- 4 llwy fwrdd o ddŵr
AR GYFER Y LLENWAD:
8 selsigen twrci
3 llwy fwrdd o saws llugaeron
1 llwy fwrdd o bersli ffres wedi dorri yn fân
Halen a phupur
1 ŵy wedi ei guro
1 llwy fwrdd o laeth
DULL
Cam 1
- Rhowch y blawd a'r menyn mewn powlen a gan ddefnyddio eich dwylo rhwbiwch y cynhwysion at ei gilydd nes fod y gymysgfa yn edrych yn debyg i friwsion bara!
- Ychwanegwch pinsiad o halen at y gymysgedd ynghyd a'r dwr a chymysgwch gyda'ch dwylo nes ei fod yn dod at ei gilydd i ffurfio toes. Ychwanegwch mwy o ddŵr os yw'r gymysgedd yn sych, ychydig ar y tro.
- Lapiwch y toes mewn gorchudd ffilm neu bapur pobi a'i roi yn yr oergell am hanner awr.
Cam 2
- Yn ofalus torwch y selsig twrci i lawr un ochor a rhowch y cig mewn powlen a chael gwared o groen y sesig. Gofynnwch am help rhiant neu oedolyn ar gyfer y cam yma.
- Cymysgwch y cig selsig twrci at ei gilydd ac yna rhoi mewn padell ffrio i goginio'r cig.
- Pan fydd y cig wedi'i coginio ychwanegwch 3 lwy fwrdd o saws llugaeron.
- Torrwch y persli ffres a'i gymygu gyda'r cig ynghyd a bach o halen a phupur. Dyma eich llenwad.
Cam 3
- Tra bod y llenwad yn oeri cymerwch y toes o'r oergell a'i rolio gan ddefnyddio rholbren. Defnyddiwch ychydig o flawd i sicrhau nad ydi'r toes yn glynu i'r bwrdd.
- Gan ddefnyddio powlen neu gwpan, rhowch ar y toes a defnyddio cyllell i dorri o'i amgylch i greu siap cylch. Gofynnwch am help rhiant neu oedolyn ar gyfer y cam yma.
- Gan ddefnyddio llwy, rhowch ychydig o'r llenwad ar un hanner o'r cylch.
- Chwipiwch yr ŵy a'r llaeth gyda'i gilydd a lledaenwch o amgylch ochrau'r toes.
- Lapiwch yr hanner gwag dros y llenwad i ffurfio hanner cylch.
- Yn defnyddio fforcen neu eich bys, crimpiwch y toes o amgylch yr ochrau fel bod yn llenwad wedi gau o fewn y toes. Dyma chi eich pastai.
Cam 4
- Llyfnwch yr ŵy ar ben y pastai fel ei bod wedi'i gorchuddio.
- Rhowch y pastai ar hambwrdd pobi a rhowch yn y popty ar 180c am 45 munud.
- Mwynhewch!