Tŷ Bara Sinsir
Campwaith Nadolig prydferth a blasus - pob lwc!
Tŷ Bara-Sinsir
AR GYFER Y TY BARA-SINSIR:
- 1 pecyn tŷ sinsir parod wedi'i brynu o'r siop
- 1 Tiwb o glud pobi.
AR GYFER YR EISIN:
- 300g Siwgr Eisin
- 2 lwy fwrdd o laeth
- 1 llwy de o enllyn fanila
- Ychydig o Ddŵr, os oes angen llacio'r gymysgedd.
ADDURNIADAU:
- Losin a siocledi o'ch dewis chi.
DULL
Cam 1
- Yn ofalus adeiladwch eich tŷ sinsir gan ddefnyddio'r glud i osod y waliau a'r to at ei gilydd.Tip – Defnyddiwch bowlen neu gwpan o fewn waliau'r tŷ i bwyso'r darnau fel eu bod yn sefyll wrth sychu.
Cam 2
- Sifiwch y siwgr eisin i mewn i bowlen ac ychwanegwch y llaeth a'r fanila a'i gymysgu i greu eisin.Os ydy'r gymysgedd yn drwchus defnyddiwch ychydig bach o ddŵr i lacio'r gymysgedd.Llenwch fag eisin gyda'r gymysgedd ac yna defnyddiwch i orchuddio'r tŷ neu ddefnyddio i ludo losin ar y to.Tip – I ail lenwi'r bag eisin defnyddiwch gwpan i orffwys y bag tra'n ail lenwi.Cam 3
- Byddwch yn greadigol wrth orchuddio'r tŷ gyda'r addurniadau. Mwynhewch a Nadolig Llawen!