S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Rheolau Cystadleuaeth "Y Gair Aur"

Rheolau Cystadleuaeth "Y Gair Aur"

CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN 'Y GAIR AUR' CYFLE I ENNILL YOTON Y3 MINI PROJECTOR

Cystadleuaeth decst a ffôn yw hon sy'n agor a chau mewn amser penodol o'r rhaglen, felly i gystadlu, mae'n rhaid:

Tecstio SADWRN AUR a dy ENW i 80800.

Neu ffonio 08000 72 78 77.

Bydd y gystadleuaeth yn agor a chau yn ystod rhaglen Stwnsh Sadwrn, bore Sadwrn 26ain Hydref 2024.

Un gwobr i un enillydd: YOTON Y3 MINI PROJECTOR

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Bydd un person yn ennill y wobr uchod. Rhaid i bawb sydd am gystadlu cysylltu o fewn amser penodol – sef un munud o'r cyhoeddiad ar sgrin. Bydd un enillydd yn cael eu dewis ar hap o blith enwau pawb sy'n cysylltu yn yr amser penodol. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rhaglen STWNSH SADWRN, dydd Sadwrn 26 Hydref 2024. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd gyda courier os yw'r rhiant, warchodwr yn hapus i'w dderbyn.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?