S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cystadleuaeth Snowdome

CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL TOCYN TEULU I SNOWDOME, TAMWORTH.

I gystadlu mae'n rhaid i ti roi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 28ain o Dachwedd 2024 - pob lwc!

RHEOLAU

I gystadlu mae'n rhaid i ti roi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 28ain o Dachwedd 2024.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

PECYN O WOBRAU – Tocyn teulu am ddiwrnod yn y SnowDome yn Tamworth. Awr o wers sgio neu Eira Fyrddio i deulu o 4 ac yna gweithgaredd hwyliog o'ch dewis chi (sglefrio iâ, Parc Eira neu sesiwn dringo.)

Bydd yr enillydd yn cael awr o wersi sgio neu eira fyrddio i deulu o 4 yn ogystal â sesiwn yn un o'r gweithgareddau hwyliog yn y SnowDome, Tamworth. Mi fydd rhaid ymweld â'r ganolfan cyn y 25.10.25 ac mae SnowDome yn awgrymu archebu'r sesiynau 4 wythnos o flaen llaw. Mae gan SnowDome yr hawl i newid y wers sgio neu eira fyrddio preifat a'r weithgaredd hwyliog gyda gweithgaredd amgen o'r un gwerth neu'n uwch os bod amgylchiadau tu hwnt i'w rheolaeth yn gorfodi iddynt wneud hynny.

Mi fydd Boom Cymru yn cyfrannu £100 tuag at gostau teithio.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rhaglen STWNSH SADWRN, dydd Sadwrn 30ain o Dachwedd, 2024. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau.

Bydd y trefniadau yn cael eu gwneud ar ôl i'r enillydd gael ei ddewis. Bydd

Boom Cymru yn anfon manylion cyswllt yr enillydd ymlaen i Snowdome a bydd y trefniadau i gyd yn cael eu gwneud trwyddyn nhw.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni i fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid am y wobr.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?