S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cystadleuaeth Troli Nadolig

CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL Y TROLI NADOLIG.

I gystadlu mae'n rhaid i ti roi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

DYDDIAD CAU WEDI YMESTYN I DYDD SADWRN YR 21AIN O RAGFYR.

MI FYDD Y GYSTADLEUAETH YN CAU YN YSTOD Y RHAGLEN FYW BORE SADWRN YR 21AIN O RAGFYR 2024.

Pob lwc!

CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL Y TROLI NADOLIG.

I gystadlu mae'n rhaid i ti roi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

DYDDIAD CAU WEDI YMESTYN I DYDD SADWRN YR 21AIN O RAGFYR.

MI FYDD Y GYSTADLEUAETH YN CAU YN YSTOD Y RHAGLEN FYW BORE SADWRN YR 21AIN O RAGFYR 2024.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rhaglen STWNSH SADWRN, bore Sadwrn 21ain o Ragfyr, 2024. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau. Mi fyddwn ni'n cysylltu gyda'r enillydd yn ystod y rhaglen fyw ar yr 21ain o Ragfyr.

PECYN O WOBRAU – Y Troli Nadolig sy'n cynnwys nifer o wobrau sy'n cynnwys:

  • Crys pêl-droed Cymru.
  • Peiriant popcorn.
  • Lamp a chloc larwm Bluetooth
  • Kerplunk
  • Twister Air
  • Glowpad Studio
  • Foosbots
  • Lego Harry Potter
  • Craz-Slimy
  • Llyfr Guinness Book Of Records 2024
  • Blanced Stwnsh Sadwrn
  • Air Buds Stwnsh Sadwrn
  • Bucket Hat Stwnsh Sadwrn
  • Potel Stwnsh Sadwrn

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni i fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid am y wobr.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?