S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Sut i wylio S4C

Canllaw i Newid Sylwebaeth Saesneg ar S4C pan fydd Hawliau yn Caniatáu

  • Sky Q

    Y camau ar gyfer newid y gosodiadau ar system Sky Q yw:

    1. Pwyswch y botwm cartref.

    2. Ewch i lawr i'ch gosodiadau a phwyswch 'Dewis / Select'.

    3. Ewch i lawr i'ch gosodiadau setio fyny a phwyswch 'Dewis / Select'.

    4. Ewch i lawr i'ch dewisiadau personol a phwyswch 'Dewis / Select'.

    5. Ewch i'ch dewisiadau iaith sain a newidiwch y gosodiad o'r Saesneg i'r Gymraeg.

    6. Bydd angen i chi sicrhau bod Sain Ddisgrifio yn cael ei ddiffodd, ac yna dylech gael sylwebaeth Saesneg yn awtomatig heb fod angen pwyso dim byd arall. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw un o'ch sianeli eraill.

  • Virgin Media

    Er mwyn newid i sylwebaeth Saesneg ar Virgin TIVO:

    1. Gwasgwch y botwm wybodaeth.

    2. Sgroliwch i lawr i'ch gosodiadau Sain.

    3. Pwyswch 'Iawn / OK'.

    4. Newidiwch yr iaith i'r Gymraeg (Oherwydd bod y gosodiad sain wedi'i osod i'r Saesneg, bydd ei newid i'r Gymraeg yn actifadu'r Saesneg i chi).

    5. Pwyswch 'Iawn / OK'.

    6. Gadael y Ddewislen.

  • Sky Glass

    Y camau ar gyfer newid y gosodiadau ar system Sky Glass yw:

    1. Pwyswch y botwm Cartref.

    2. Sgroliwch i'ch gosodiadau a phwyswch 'Dewis / Select'.

    3. Sgroliwch i'ch gosodiadau Llun a Sain a phwyswch 'Dewis / Select'.

    4. Sgroliwch i Sain a phwyswch 'Dewis / Select'.

    5. Sgroliwch i Iaith Sain a newidiwch y gosodiad o'r Saesneg i'r Gymraeg.

  • Freesat

    Gyda Freesat mae pob system yn amrywio yn ôl beth yn union a ddangosir yn y system ddewislen. Canllaw cyffredinol yw:

    1. Pwyswch y botwm Dewislen, Cartref neu Setio Fyny (yn dibynnu ar ba un sydd ar gael ar eich system eich hun).

    2. Yna darganfyddwch naill ai Gosodiadau, Setio Fyny neu Iaith a phwyswch 'Iawn / OK' neu 'Dewis / Select'.

    3. Dod o hyd i Iaith Sain, Hoff Sain neu Iaith a phwyswch 'Iawn / OK' neu 'Dewis / Select'.

    4. Newidiwch y gosodiad i'r Gymraeg. (Bydd ei newid i'r Gymraeg yn actifadu'r Saesneg i chi).

  • Freeview

    Ar systemau Freeview dylai fod mor hawdd â phwyso'r Botwm Coch ar eich teclyn teledu a dewis Saesneg.

  • Gwefan ac ap S4C Clic

    Cliciwch ar y swigen ar waelod ochr dde'r fideo a dewiswch Saesneg.

  • Sky+

    Ar systemau Sky+ dylai fod mor hawdd â phwyso'r Botwm Coch ar eich teclyn teledu a dewis Saesneg.

Os ydych yn cael unrhyw anawsterau neu broblemau wrth actifadu'r sylwebaeth Saesneg ar S4C ar unrhyw blatfform gallwch gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.

Ffoniwch ni

Gwifren Gwylwyr: 0370 600 4141

Nid yw galwadau'n costio mwy na galwad cyfradd cenedlaethol i rif 01 neu 02.

Gyrrwch neges

X: @S4C

Facebook: facebook.com/s4c

WhatsApp: +44 7900 588261

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?