S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol

Wrth i S4C gamu yn hyderus tuag at ddyfodol aml-blatfform, rydym yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol newydd i gyfrannu at waith cyffrous ehangach yr adran ddigidol. Mae'r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi'n ymateb i'r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol gwreiddiol ac organig yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth drawsnewidiol S4C, gyda'r gallu a'r uchelgais i weithio ar draws amrywiaeth o wahanol genres. Wrth wraidd y cyfan, mae'r awydd i annog creadigrwydd a datblygu syniadau gwych, sydd yn arwain at gynnwys sydd yn rhaid ei wylio.

Beth fydd diwrnod gwaith yn edrych fel?

Bydd pob diwrnod yn wahanol. Bydd disgwyl i chi weithio ar unrhyw genre ac i gynorthwyo ar brosiectau a/neu gynnwys gwahanol yn ôl y galw.

Gan weithio'n agos efo'ch tîm, adrannau eraill o fewn y sefydliad a chwmnïau allanol, fyddwch yn helpu i siapio tôn llais S4C gan berchnogi'r cyfrifon gyda'ch sgiliau ysgrifennu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddwch yn llawn syniadau ffres, yn deall sut i neidio ar 'trends', ac yn dod â'ch brwdfrydedd dros gyfryngau cymdeithasol a'r tirlun digidol i'r rôl.

Mae gwaith y tîm cynnwys digidol wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i weithio ar leoliad - o'r Eisteddfod i ŵyl Lorient, a Tour de France . Yn ogystal â chyfleoedd i weithio ar ddigwyddiadau, bydd elfen fawr o greu a golygu deunydd gan gynnwys dewis clipiau o raglenni S4C, cynllunio a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol a ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook a YouTube yn ôl yr angen. Byddwch hefyd yn gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform yn ogystal â chynghori a rhoi arweiniad i'r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.

Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, mae yna wastad rhywbeth arall i'w wneud, felly bydd bob dydd yn brysur, ond yn gyfle newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfa eang gyda chynnwys gorau Cymru a'r iaith Gymraeg. Byddwch yn atgyfnerthu enw da S4C fel cartref i gynnwys sydd â safonau cynhyrchu o'r radd flaenaf ac sydd yn uchel ei barch fel darlledwr cyhoeddus.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ysgrifenedig i safon uchel iawn yn hanfodol i'r swydd hon.

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: Parhaol

Oriau Gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn gyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Oherwydd natur y gwaith, bydd angen i chi weithio yn ôl patrwm sifft weithredol. Felly byddwch yn gweithio yn wythnosol pum diwrnod allan o saith, yn unol â gofynion y gwasanaeth. Os oes angen i chi gweithio patrwm shifft mi fyddwch yn cael eich hysbysu o'r patrwm shifft o flaen llaw.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 ar ddydd Mawrth 9 Gorffennaf 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?